Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yn gyflwyniad i addysgu a fydd yn rhoi gwybodaeth am rôl, cyfrifoldebau a pherthnasoedd mewn addysg a hyfforddiant, sut i gynllunio a chyflwyno sesiynau addysgu cynhwysol a sut i asesu a rhoi adborth adeiladol.
Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n dechrau ymgymryd â sesiynau hyfforddi byr.
Hefyd gall y cymhwyster yma eich helpu chi i wneud cynnydd mewn swyddi addysgu/hyfforddi a chefnogi mewn amrywiaeth eang o sefydliadau yn y sector dysgu gydol oes.
Mae'r cwrs AM DDIM hwn ar gael i oedolion sy'n gymwys am Gyfrif Dysgu Personol (PLA) yn unig. Mae Cyfrifon Dysgu Personol, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ar gael i oedolion cyflogedig sy'n byw yng Nghymru sy'n dymuno gwella sgiliau er mwyn datblygu neu newid gyrfa.
Canfyddwch a ydych yn gymwys heddiw.
Mae hwn yn gwrs 4 diwrnod a gyflwynir ar ein Campws Canol y Ddinas.
Diwrnod 1 = 10 Gorffennaf 2024 (9.30am – 4pm)
Diwrnod 2 = 11 Gorffennaf 2024 (9.30am – 4pm)
Diwrnod 3 = 24 Gorffennaf 2024 (9.30am – 4pm)
Diwrnod 4 = 25 Gorffennaf 2024 (9.30am – 4pm)
Yn ystod y cwrs pump diwrnod byddwch yn rhoi sylw i’r meysydd canlynol:
Mae’r cwrs yn cynnwys llawer o sesiynau gweithdy ymarferol a bydd y dysgwyr yn cael cyfle i ddatblygu a chyflwyno micro sesiwn a derbyn adborth gan yr hyfforddwr.