Mae Everything DiSC® Gwerthiant yn addysgu pobl sy’n gwerthu am sut i gysylltu’n well â’u cwsmeriaid.
Hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth yw Everything DiSC® Gwerthiant sy’n defnyddio gwaith ymlaen llaw ar-lein, hwyluso difyr gyda fideo cyfoes, a dilyniant ar-lein i greu profiad dysgu personol. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu sut i ddarllen steil eu cwsmeriaid. Y canlyniad yw pobl sy’n gwerthu sy’n gallu addasu eu steil er mwyn cysylltu’n well – a sicrhau mwy o werthiant.
Bydd pawb sy’n dod i’r gweithdy’n derbyn manylion mewngofnodi unigryw ar gyfer asesiad ar-lein byr cyn y gweithdy.
Ar ddiwrnod y gweithdy, bydd adroddiad personol yn cael ei roi i’r cyfranogwyr yn manylu ar ble maent yn perthyn ar y Map DiSC Gwerthiant. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu am eu steil gwerthiant DiSC a sut mae blaenoriaethau personol yn dylanwadu ar eu hymddygiad gwerthu.
Mae Everything DiSC Gwerthiant yn canolbwyntio ar dri maes hanfodol:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.