Mae’r Dystysgrif Lefel 5 yma mewn Hyfforddi a Mentora yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd eisiau gwella eu sgiliau hyfforddi a mentora a deall sut i ddatblygu diwylliant hyfforddi a mentora yn eu sefydliad. Bydd yn darparu’r adnoddau, y wybodaeth a’r hyder i hyfforddi pobl yn effeithiol yn y gweithle.
Bydd y cwrs yma’n helpu unigolion i ddeall beth sydd ei angen i fod yn hyfforddwr effeithiol, drwy ddarparu model hyfforddi a’r adnoddau a’r technegau gofynnol i gefnogi dull hyfforddi; bydd yn darparu sylfaen berffaith mewn hyfforddi i unrhyw arweinydd neu reolwr. Mae’r gweithdai’n cael eu cynnal dros gyfnod o amser, fel bod yr unigolion yn gallu profi eu sgiliau yn y gweithle a dadansoddi, asesu a gwella eu gallu i hyfforddi.
Cyflwynir yr hyfforddiant dros 6 diwrnod.
Dyma’r unedau gorfodol:
Asesu: Ar gyfer pob uned bydd y dysgwr yn cwblhau aseiniad a ddychwelir i’r coleg ar gyfer ei farcio a’i asesu.
Ffioedd: Mae ffi’r cwrs yn cynnwys cofrestru gydag ILM ac ardystiad ILM ac wedyn sesiwn 1-1 gyda’r hyfforddwr os oes angen.
Ffi Cwrs: £1,295.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.