Cyflwyniad i Gwnsela

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynglŷn â'r cwrs

Os ydych chi'n awyddus i ddatblygu eich gwybodaeth am gwnsela a'ch sgiliau cwnsela, mae ein rhaglen Cyflwyniad i Gwnsela'n gwrs perffaith i chi! Wedi'i leoli ar ein campws yng Nghanol y Ddinas yng Nghaerdydd, bydd y cwrs blasu yma'n cyflwyno myfyrwyr i sgiliau gwrando ac i egwyddorion hyfforddiant cwnsela, ac mae'n cael ei gyflwyno drwy gyfrwng ystod o ddulliau dysgu, gan gynnwys dysgu arbrofol yn yr ystafell ddosbarth.

Beth fyddwch yn ei astudio?

Ar y cwrs hwn bydd y myfyrwyr yn astudio:

  • Sgiliau gwrando

  • Hunanymwybyddiaeth ac arfer adlewyrchol

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £10.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £95.00

Gofynion mynediad

Dim gofynion ffurfiol ond rhaid gallu ysgrifennu cofnod adlewyrchol 500 gair bob wythnos. Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu'n hŷn.

Addysgu ac Asesu

  • Asesiad ysgrifenedig

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Mwy

Fideos

Rhagolygon Gyrfa ac Astudiaeth Bellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs yma, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus fynd ymlaen i Dystysgrif Lefel 2 CPCAB mewn Astudiaethau Cwnsela.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ