CAVC a Dow yn lansio rhaglen interniaeth ddiweddaraf Prosiect SEARCH

14 Hyd 2019

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi uno gyda Dow Silicones UK Ltd yn y Barri er mwyn lansio rhaglen newydd sy’n cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa amhrisiadwy i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Gyda chefnogaeth DFN Prosiect Search, bydd y rhaglen yn rhoi profiadau i 11 o bobl ifanc a fydd yn meithrin eu sgiliau cyflogadwyedd a phersonol. Mae’r rhaglen interniaeth wedi cael ei datblygu gan CAVC mewn cydweithrediad â Phrosiect SEARCH, menter ryngwladol sy’n arbenigo mewn cynlluniau cyflogaeth, hyfforddiant ac addysg gyda chymorth i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
Bydd yr 11 lleoliad ar safle Dow yn y Barri. Bydd yr interniaid yn symud o un lle i’r llall, gydag amrywiaeth o swyddogaethau, fel labordai, gweithgynhyrchu, ansawdd, siopau, gweinyddu, TG, logisteg ac iechyd a diogelwch amgylcheddol.

Gydag arweiniad gan Brosiect SEARCH, mae Dow wedi adeiladu ystafell hyfforddi newydd a chreu tîm penodol i gefnogi’r interniaid wrth iddynt gwblhau eu hyfforddiant damcaniaethol a’u profiad gwaith.

Dywedodd Pennaeth Paratoi ar gyfer Gwaith, Bywyd a Dysgu CAVC, Wayne Carter: “Mae hwn yn gydweithrediad arloesol sy’n darparu cyfleoedd cynhwysol i bobl ifanc gymryd rhan mewn profiadau bywyd ‘real’. Mae’r rheolwyr a’r staff yn Dow Silicones UK Ltd wedi croesawu ethos rhaglen Prosiect SEARCH yn llawn ac rydw i’n siŵr y bydd yr interniaid yn cael amrywiaeth eang o gyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd a dod yn asedau gwerthfawr i’r sefydliad.”

Dywedodd Rheolwr Gwlad Dow ar gyfer y DU ac Iwerddon, John Case: “Mae rhaglen interniaeth Prosiect SEARCH yn cyd-fynd yn berffaith ag uchelgais Dow i newid y byd er gwell, yn ogystal â’n hymrwymiad ni i greu gweithlu amrywiol gyda phersbectif a chefndir unigryw.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein hinterniaid ac rydyn ni’n dymuno’r gorau iddyn nhw ar gyfer eu profiad ar ein safle ni yn y Barri.”

Dywedodd Lily Beyer, Arbenigwr Rhaglen gyda Phrosiect SEARCH: “Ein nod ni ym Mhrosiect SEARCH yw sicrhau cyflogaeth gystadleuol i bobl ag anableddau. Rydyn ni’n dibynnu ar bartneriaeth gyda chwmnïau fel Dow i ddarparu profiadau cyfranogol ac integredig a fydd yn helpu ymgeiswyr i baratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus yn y gweithle.

“Rydyn ni’n gyffrous am lansiad rhaglen Prosiect SEARCH gyda Dow Silicones, ac yn hyderus am effaith bositif y profiad i’n hymgeiswyr ni.”

Dywedodd rhiant un o’r interniaid: “Fe hoffwn i ddweud bod Prosiect SEARCH wedi rhoi cyfle gwych i fy mab i pan oeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw beth ar ôl iddo’n addysgol. Does dim posib diolch digon i chi.”

Dywedodd rhiant arall: “Rydw i’n hynod gyffrous dros fy merch o’i gweld yn cael y cyfle anhygoel yma. Mae’n swnio’n wych. Bydd nid yn unig yn magu llawer o hyder ac yn gwneud ffrindiau newydd, ond hefyd yn dod o hyd i swydd ddelfrydol.”

Sefydlwyd Prosiect SEARCH yn 1996 yn yr Unol Daleithiau pan oedd y sylfaenydd Erin Riehle yn rhwystredig wrth chwilio am gyflogeion i ailstocio cyflenwadau yn Ysbyty Plant Cincinnati. Penderfynodd droi ei her yn gyfle i bobl ag anableddau. Daeth y syniad cychwynnol i ddod â Phrosiect SEARCH i Dow Silicones yn y DU yn dilyn ymweliad â swyddfa Dow yn Michigan, lle mae’r rhaglen wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus am y tair blynedd ddiwethaf.