Llwyddiant yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK i CAVC

26 Tach 2019

Teithiodd saith o fyfyrwyr o Goleg Caerdydd a’r Fro i Birmingham dros y penwythnos er mwyn cymryd rhan yn rowndiau terfynol WorldSkills UK – sy’n cael eu hadnabod fel y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’ – a daethant adref gyda medalau a sawl canmoliaeth.

Enillodd Morgan McNeil fedal arian ac enillodd Scott Roberts fedal efydd yn rowndiau terfynol Systemau Rhwydwaith WorldSkills ledled y DU. Cafodd Kristian Brooks ganmoliaeth uchel fel Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith a chafodd Holly Edwards ganmoliaeth uchel yn rowndiau terfynol yr Ymarferwyr Sgiliau Harddwch.

Y myfyrwyr eraill o CAVC a oedd yn rhan o Dîm Cymru yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK oedd James Ackland mewn Teilsio Waliau a Lloriau, Marc Emery mewn Paentio ac Addurno a Tomek Pawelek fel Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau a da iawn enfawr i Morgan, Scott, Kristian a Holly – rydych chi i gyd wedi profi eich bod chi ymhlith goreuon y DU yn eich meysydd. Mae’n gyflawniad anhygoel i bawb sydd wedi cymryd rhan ac yn dangos eich gwaith caled a’ch penderfyniad.

“Hefyd hoffwn longyfarch holl staff CAVC sydd wedi gweithio mor ddiflino, yn eu hamser eu hunain yn aml, er mwyn hyfforddi’r cystadleuwyr a’u galluogi i gystadlu i’r safon uchel yma.”

Bob blwyddyn mae’r Coleg yn anfon staff diwydiant arbenigol a phrofiadol i Rowndiau Terfynol WorldSkills UK fel beirniaid. Eleni fe fu’r darlithwyr Moduro Ben Young, Lee Summerhayes, Peter Gibbons, Richard Power a Dan Sweet a’r Darlithydd Seibr Ddiogelwch a Chefnogi Systemau TG, Peter Franklin, yn cymryd rhan fel beirniaid. Fe aeth bysiau o fyfyrwyr a staff CAVC i’r digwyddiad hefyd, i gefnogi cystadleuwyr CAVC.