Teyrnged i Bart Haines (1940-2021)

21 Ion 2021
Teyrnged i Bart Haines (1940-2021)

Gyda thristwch a siom enfawr fe'ch hysbyswn y bu farw ein His-gadeirydd y Llywodraethwyr annwyl, Bart Haines, nos Iau ddiwethaf ar ôl salwch byr. 

Roedd Bart wedi bod yn Llywodraethwr Coleg y Barri ac wedi hynny, Coleg Caerdydd a'r Fro ers dros 20 mlynedd, rôl wirfoddol y rhoddodd ei amser, ei arbenigedd a'i egni iddi'n anhunanol. Roedd Bart yn Is-Gadeirydd y Llywodraethwyr am y 3 blynedd diwethaf ac roedd newydd ddechrau ar ei ail dymor yn y swydd yn y rôl hon.

Roedd Bart yn frwd iawn dros y cyfleoedd y gallai Addysg Uwch eu rhoi i bob dysgwr, gan eu rhoi wrth galon popeth a wna.  Law yn llaw â hynny, roedd yn gefnogwr brwd iawn o dîm Rygbi CAVC, byddai i'w weld yn aml mewn gemau ac yn gweiddi o'r llinellau ochr!  Roedd Bart yr un mor gefnogol o'n dysgwyr celfyddydau creadigol, o eistedd yn rhes flaen Theatr Michael Sheen yn gwylio un o'r perfformiadau lu, i ymuno â Chyngerdd Nadolig diweddaraf y Llywodraethwyr ar-lein gyda phleser a chlod mawr i ddoniau'r perfformwyr.

Roedd Bart yn ŵr bonheddig a chai ei barchu, ei garu a'i addoli yn gyfartal gan bawb a oedd yn gweithio gydag o ar y Corff Llywodraethu.  Roedd yn fawr ei ddengarwch, ffraethineb, deall, gallu a charedigrwydd, y cofiwn amdano gydag anwyldeb a thristwch o'i golli.

Dywedodd Geraint Evans, Cadeirydd y Llywodraethwyr "Rwyf wedi fy nhristau gan y newyddion am farwolaeth Bart. Roedd sylw Bart i fanylion yn ddiguro a gwnaeth gyfraniad enfawr i ddatblygiad a llwyddiant y Coleg. Roedd ei gyfraniad i'n cyfarfod y Llywodraethwyr ym mis Rhagfyr yn graff fel bob amser.  Byddwn yn colli ffraethineb a doethineb Bart, ond fwy na dim, byddwn yn colli ei angerdd dros wella bywydau pobl ifanc."
 

Mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'i wraig, Patricia, merched Nathalie, Camilla a Fiona, a'i wyrion ac wyresau, ar yr adeg anodd hon.

Bart Haines 1940-2021