Coleg Caerdydd a’r Fro yn cydweithio â Health Assured i ddiogelu llesiant myfyrwyr

11 Hyd 2021

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro yn cydweithio â Health Assured, darparwr gwasanaethau iechyd meddwl, i lansio menter sy’n canolbwyntio ar ddiogelu iechyd a llesiant myfyrwyr.

Mae Rhaglen Cymorth Myfyrwyr Health Assured (SAP)yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol sydd ar gael 24/7, sy’n helpu dysgwyr CAVC i ddelio â phroblemau personol neu broblemau sy’n ymwneud â bod yn fyfyriwr, pa un ai eu bod nhw’n effeithio ar fywyd gartref, addysg, iechyd neu lesiant cyffredinol. 

Gall pob dysgwr sydd rhwng, sy’n dilyn cwrs llawn amser neu ran amser yn CAVC, ddefnyddio’r gwasanaeth 24/7, ac mae’n cynnig cymorth bywyd gyda phroblemau megis gorbryder neu iselder, gwybodaeth gyfreithiol, cymorth ariannol a gwybodaeth feddygol.

Mae’r rhaglen SAP hefyd yn cynnig llinell gymorth bwrpasol i fyfyrwyr yn ogystal ag ap iechyd a llesiant, sef My Health Advantage sy’n cynnig sgwrs fywiog, newyddion wedi’i addasu, gwiriwr tymer a chynllunydd pedair wythnos. Drwy’r ap, gellir hefyd ddefnyddio BrightTV, lle mae enwogion megis y Fonesig Kelly Holmes a Ruby Wax OBE yn trafod eu profiadau personol ag iechyd meddwl.

Dywedodd Alex Acewan, Rheolwr cysylltiadau Corfforaethol Health Assured: “Mae Health Assured yn falch o fod yn cynnig y Rhaglen Cymorth Myfyrwyr i Goleg Caerdydd a'r Fro.

“Mae’r Rhaglen Cymorth Myfyrwyr yn cynnig cymorth cwnsela i fyfyrwyr 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae ein cwnselwyr achrededig BACP ar gael drwy’r dydd a’r nos i gefnogi myfyrwyr gydag unrhyw broblemau maen nhw’n eu hwynebu. Mae gennym hefyd gynghorwyr cyfreithiol, ariannol a meddygol all arwain myfyrwyr gydag unrhyw bryderon.

“Mae’r data’n dangos bod teimladau o bryder ymhlith myfyrwyr wedi gostwng 50% ar ôl sesiynau cwnsela, a bod teimladau o iselder ac anobaith wedi gostwng 56%. Gall y gefnogaeth hon fod yn rhaff achub i fyfyrwyr sydd ei hangen fwyaf. Rydym eisiau sicrhau bod myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro yn gwybod fod Health Assured ar gael i’w helpu nhw.”

Mae SAP Health Assured yn rhan o gyfres o fentrau ar gyfer myfyrwyr CAVC sydd wedi cael eu llunio i gefnogi eu hiechyd a’u llesiant. Gall dysgwyr y Coleg hefyd ddefnyddio’r llyfrgell o adnoddau sydd wedi’i chreu gan Headspace, sef arbenigwyr myfyrio ac ymwybyddiaeth. Gall myfyrwyr addysg uwch geisio cymorth iechyd meddwl a llesiant 24/7 gan Togetherall, sy’n gymuned ar-lein.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: “Rydym wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu iechyd meddwl a llesiant y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yma yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro. Mae hyn wedi bod yn hollbwysig yn ystod y 18 mis diwethaf, wrth i COVID-19, a’r cyfyngiadau oedd yn gysylltiedig ag o, effeithio’n amlwg ar lesiant pobl.

“Dyma pam ein bod ni’n parhau i adeiladu ar yr adnoddau rydym yn eu cynnig i’n myfyrwyr, er mwyn diogelu eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Mae'r rhaglen Cymorth Myfyrwyr yn adeiladu ar ddarpariaeth sylweddol bresennol y Coleg, megis timau llesiant, staff cwnsela cymwys a gwasanaethau eraill sydd ar waith ar bob campws. Yn sgil y buddsoddiad hwn, a’r ffocws a roddwyd ar lesiant, cafodd y Coleg ei gydnabod am ddarparu’r cymorth gorau ym Mhrydain yng Ngwobrau Addysg Uwch Tes.