Claire yn ennill gwobr Inspire! am ei hymrwymiad i ddysgu gyda’i mab ifanc drwy Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd gyda CAVC

14 Hyd 2021

Mae Claire Gurton wedi ennill Gwobr Inspire! i ddysgwyr sy'n oedolion am ei chyfranogiad mewn menter gan Goleg Caerdydd a'r Fro i ennyn diddordeb teuluoedd a chefnogi dysgu eu plant.

Mae Claire, sy’n 46 oed ac yn dod o Gaerdydd, yn cymryd rhan ym mhrosiect Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd CAVC yn Ysgol Gynradd Coed Glas gyda’i mab Mackenzie. Mae hi wedi gweld ei fod wedi rhoi hwb i’w hyder ac wedi gwella perfformiad Mackenzie yn yr ysgol.

Dim ond 22 oed oedd Claire pan gollodd ei golwg yn un o'i llygaid. Nid oedd yn gwybod hynny ar y pryd, ond roedd yn dioddef o niwromyelitis optica (NMO), clefyd awtoimiwnedd sy'n effeithio ar y llygaid a llinyn asgwrn y cefn.

Parhaodd Claire i weithio am 20 mlynedd arall, tan bedair blynedd yn ôl pan ddirywiodd ei hiechyd, a gwnaeth y penderfyniad anodd i adael ei swydd brysur gyda’r YMCA. Collodd y golwg yn ei llygad arall a datblygodd rai problemau symudedd, byddardod a thinitws, a gwnaeth pob un ohonynt Claire yn orbryderus a chollodd ei hyder.

Pan ddechreuodd ysgol ei mab saith oed, Mackenzie, hysbysebu dosbarthiadau Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd CAVC, roedd Claire yn nerfus. Ond, wrth weld y dosbarthiadau fel ffordd gadarnhaol o helpu Mackenzie, sydd ag ADHD a phroblemau datblygu niwro eraill, i wella ei ganolbwyntio a chadw i fyny gyda'i gyd-ddisgyblion, dyfalbarhaodd Claire.

Nod Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd yw ymgysylltu â chymaint o deuluoedd â phosibl i feithrin agweddau cadarnhaol at addysg a helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgu eu plant wrth ddysgu sgiliau newydd eu hunain.

Nawr, mae Claire a Mackenzie wedi cwblhau chwe dosbarth ac yn bwriadu parhau i ddysgu gyda'i gilydd. Mae athrawon Mackenzie wedi sylwi ar welliant yn ei ganolbwyntio a’i waith ysgol, ac mae gan Claire hyder newydd yn ei galluoedd.

Mae Claire wedi derbyn Gwobr ‘Dysgu Teuluol’ Inspire!, cydnabyddiaeth o'i hymrwymiad i ddysgu gydol oes a helpu ei mab i gyflawni yn yr ysgol.

Cydlynir Gwobrau Inspire! gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop. Maent yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i ddysgu gydol oes, magu hyder a datblygu cymunedau bywiog a llwyddiannus.

I Claire, a oedd wedi arfer gweithio mewn amgylchedd prysur gyda llawer o gyfrifoldeb, nid dim ond ffordd o'i helpu ef i ddysgu oedd dysgu gyda Mackenzie. Fe helpodd hefyd i lenwi ei dyddiau hi a chadw ei meddwl yn egnïol.

Meddai: “Dim ond yn ddiweddar y cafodd Mackenzie ddiagnosis o ADHD felly mae’n cael llawer mwy o help nawr, ond cyn iddo gael meddyginiaeth, roedd yn anodd iawn ei gael i ganolbwyntio. ’Allwch chi ddim ei ddysgu o ddarn o bapur yn unig, mae angen ymgysylltu'n weithredol.

“Mae e y tu ôl i’w gyd-ddisgyblion yn yr ysgol. Roedd mynd i ddosbarthiadau gyda’n gilydd yn ymddangos fel ffordd berffaith o’i helpu i ddal i fyny a sicrhau fy mod i’n gwybod beth mae’n ei ddysgu er mwyn i mi allu helpu mwy gyda’i waith cartref.”

Wrth fynd i mewn i'r dosbarth cyntaf, roedd Claire yn poeni y gallai bod yn anabl ei hatal rhag cadw i fyny gyda'r rhieni eraill, ond fe fagodd hyder yn gyflym.

Meddai wedyn: “Roeddwn i'n teimlo'n nerfus a phryderus iawn. Doeddwn i ddim wedi gwneud unrhyw ddysgu ers amser hir, doeddwn i ddim yn siŵr fyddwn i’n gallu ei wneud. A doeddwn i ddim yn gwybod pa effaith fyddai bod yn ddall a byddar yn ei chael ar fy ngallu i gymryd rhan. Fe wnes i ofyn i fy ngŵr ddod gyda ni i'r dosbarth cyntaf, ond roeddwn i'n teimlo cymaint o gefnogaeth fel bod Mackenzie a minnau a'r ci tywys Peggy wedi mynd ar ein pen ein hunain ar ôl hynny.

“Fe wnaethon ni ddechrau gyda chwrs Sgiliau Llythrennedd a Rhifau. Nid yw'r cyrsiau wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant ag ADHD ond oherwydd bod y gweithgareddau mor ymarferol a hwyliog, fe wnes i ei chael yn llawer haws ennyn diddordeb Mackenzie.

“Mae pob dosbarth yn dechrau gyda’r athro’n darllen stori, ac wedyn mae’r holl weithgareddau’n seiliedig ar y stori honno. Mae llawer o gyfrif corfforol, torri a gludo a thynnu llun. Fe wnaeth y ddau ohonom ni fwynhau'r cwrs cyntaf gymaint nes i ni gofrestru am fwy cyn gynted ag y gorffennodd e.

“Fe wnaethon ni wyth yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Roeddwn i'n cysgodi felly roedd yn wych cael rhywbeth i lenwi ein hamser. Roedd yn brofiad bondio i ni, ac fe wnaethon ni ddysgu awgrymiadau a thriciau i helpu gydag addysgu Mackenzie gartref tra oedd yr ysgolion ar gau.”

I Claire, a oedd wedi arfer gweithio mewn amgylchedd prysur gyda llawer o gyfrifoldeb, roedd dysgu gyda Mackenzie hefyd yn helpu i lenwi ei dyddiau a chadw ei meddwl yn egnïol.

Meddai wedyn: “Yn y gwaith, rydych chi'n cael cydnabyddiaeth am weithio'n galed. Bob dydd rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cyflawni rhywbeth. Pan wnes i roi'r gorau i weithio, fe gollais i hynny. Mae mynd yn ôl i ddysgu wedi fy helpu i mewn cymaint o ffyrdd.

“Roeddwn i bob amser yn meddwl na fyddwn i’n gallu gwneud yr un gweithgareddau ag y mae rhieni eraill yn gallu eu gwneud. Nawr rydw i'n gwybod ’mod i’n gallu, rydw i’n llawer mwy hyderus ac annibynnol. Rydw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi gwella fy sgiliau sylfaenol fy hun. Rydw i'n falch o'r hyn rydw i a Mackenzie wedi gallu ei gyflawni.”

Ers cofrestru gyda Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd gyda CAVC, mae gallu Mackenzie i ganolbwyntio ac eistedd yn llonydd wedi gwella.

Dywedodd Claire: “Fe all dysgu gyda Mackenzie fod yn heriol. Weithiau mae'n cymryd ychydig mwy o amser i ni gwblhau gweithgareddau, ond rydyn ni'n cael cymaint o hwyl yn ei wneud.

“Rydw i’n gallu gweld gwahaniaeth enfawr yn sylw Mackenzie a faint o ddiddordeb mae’n ei ddangos yn y gwersi. Mae'n dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd gyda phob dosbarth a fydd yn ei helpu i ddal i fyny i ble dylai fod. Mae ei athrawon wedi sylwi ar y gwahaniaeth hefyd.

“Mae manteision dilyn y cyrsiau yma wedi bod yn enfawr i’r ddau ohonom ni. Fe fyddwn i’n ei argymell i unrhyw un - os gallwn ni ei wneud e, fe allwch chi hefyd.”

Dywedodd David Hagendyk, Cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Pa ffordd well o wireddu gwerth dysgu oedolion na chlywed straeon dyrchafol enillwyr ein Gwobrau Inspire! Mae pob un o'n henillwyr yn dangos y buddion y gall dysgu gydol oes eu cynnig - o wella lles meddyliol i ddysgu’r sgiliau i gael swydd newydd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd eu straeon anhygoel yn ysbrydoli pobl ledled Cymru i gymryd y cam cyntaf hwnnw yn ôl i addysg. Beth bynnag yw eich cymhelliant i ddysgu sgiliau newydd, mae’n amser gwell nag erioed i newid eich stori.”

Mae cyrsiau Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd CAVC yn cynnwys dosbarthiadau a gweithdai naill ai ar-lein neu yn yr ysgol i rieni a gofalwyr eu mynychu gyda’u plant. Mae’r ddarpariaeth wedi ehangu eleni oherwydd galw cynyddol ac mae'r ystod o gyrsiau'n cynnwys y dosbarth Meithrin, y Cyfnod Sylfaen, CA2, CA3, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill a Chyfrwng Cymraeg.

Mae 171 o gyrsiau wedi'u cynllunio ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22 a fydd yn cyrraedd mwy na 1,400 o deuluoedd yn y rhanbarth. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd, e-bostiwch family@cavc.ac.uk i gael mwy o wybodaeth.