Gwneud myfyriwr CAVC Maddison yn Gadet yr Arglwydd Raglaw am wneud gwahaniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud

16 Ebr 2021

Mae Maddison Parkhouse, dysgwr Safon Uwch yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, wedi cael y fraint o fod yn Gadet yr Arglwydd Raglaw ar gyfer Morgannwg Ganol.


Bydd Maddison nawr yn cadw cwmni i gynrychiolydd y Frenhines dros Forgannwg Ganol, yr Arglwydd Raglaw yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ, ar ei ddyletswyddau swyddogol. Mae'r rôl yn para am flwyddyn a chafodd ei rhoi i gydnabod gwaith Maddison yn ystod y cyfyngiadau symud.


Wrth gyhoeddi Cadetiaid yr Arglwydd Raglaw eleni yn ystod seremoni ar-lein, dywedodd yr Athro Vaughan: "Mae ein Lluoedd Cadet yn sefydliadau gwirioneddol anhygoel ac yn haeddu ein llongyfarchiadau, lle mae'r cyfuniad o hyfforddiant milwrol, cymwysterau sifil a gwaith cymunedol yn sicr yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc a rhoi rhywbeth yn ôl i gymdeithas.


"Wrth gwrs mae llwyddiant y Lluoedd Cadet nid yn unig oherwydd y bobl ifanc, ond hefyd oherwydd y swyddogion a'r gwirfoddolwyr sy'n rhoi cymaint o'u hamser eu hunain i wneud cymaint o wahaniaeth. 


"Ac fe hoffwn i dalu teyrnged i'r unigolion hynny yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn lle mae dyfeisgarwch, y ffordd maen nhw’n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, wedi sicrhau bod hyfforddiant a chyswllt sydd wedi bod yn hanfodol wedi parhau gyda'n pobl ifanc ni - yn syml iawn mae'r hyn maen nhw wedi'i wneud wedi bod yn ysbrydoledig."


Mae Maddison, sy'n 18 oed ac o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Swyddog Gwarant Cadetiaid o Gadetiaid Awyr RAF Adain Cymru Pen-y-bont ar Ogwr Rhif 3. 


"Roeddwn i'n teimlo ei bod yn fraint, ac yn gyffrous iawn pan glywais i," meddai Maddison. "Mae Gwobr Cadet yr Arglwydd Raglaw yn cael ei rhoi oherwydd dyletswydd ac ymroddiad mae unigolyn yn ei ddangos fel cadet.


"Rydw i wedi gweithio'n galed iawn yn ystod fy mhum mlynedd yng Nghadetiaid yr Awyrlu Brenhinol yn gwneud digwyddiadau elusennol, gorymdeithiau, gwersylloedd a chyrsiau fel cymorth cyntaf."


Mae Maddison yn bwriadu symud ymlaen i'r brifysgol i astudio Bioleg Forol ar ôl ei chyfnod yn CAVC er mwyn bod ar y rheng flaen ym maes newid yn yr hinsawdd. Dewisodd y Coleg gan ei bod yn teimlo y byddai'n rhoi mwy o annibyniaeth iddi ac mae wedi mwynhau'r profiad o ddysgu ar-lein gan ei bod yn teimlo ei fod wedi ei hannog i fod yn fwy cynhyrchiol.


Dywedodd Dirprwy Bennaeth Coleg Caerdydd a'r Fro, Sharon James: "Llongyfarchiadau i Maddison gan bob un ohonom ni yn CAVC – bydd y flwyddyn nesaf yn cynnig profiadau anhygoel iddi. Mae'r ffaith ei bod wedi cael ei chydnabod gan gynrychiolydd y Frenhines ar gyfer ei hardal yn dangos bod Maddison yn amlwg yn ysbrydoliaeth i'w chyfoedion a'i chydweithwyr sy'n rhywbeth y mae'n rhaid iddi fod yn hynod falch ohono."