Saith Seren: Myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro drwodd i Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU

21 Gor 2022

Mae saith myfyriwr o Goleg Caerdydd a’r Fro wedi’u dewis i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU eleni.

Bydd y dysgwyr yn herio’r goreuon o blith y goreuon, gan gystadlu yn erbyn enillwyr rhanbarthol cystadlaethau sgiliau o bob rhan o’r DU yn eu disgyblaethau. Wedyn mae gan enillwyr Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU gyfle i gynrychioli’r DU yn y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’ – Rowndiau Terfynol Rhyngwladol WorldSkills 2024 a gynhelir yn Ffrainc.

Y myfyrwyr o CAVC sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:

• Kyle Winter – Garddwriaeth
• Kharly Thomas – Garddwriaeth
• Petr Petrov – Garddwriaeth
• Ruby Pile – Gwasanaeth Bwyty
• Aram Elbadian – Teilsio Waliau a Lloriau
• Omar Waheed – Atgyweirio Cerbydau
• Ieuan Morris-Brown – Atgyweirio Cerbydau

Eleni, mae colegau ledled y wlad yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU. CAVC yw’r unig goleg yng Nghymru i’w cynnal, a bydd yn lleoliad ar gyfer 14 o’r 62 o gystadlaethau – mwy nag unrhyw goleg arall yn y DU.

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James: “Llongyfarchiadau a phob lwc i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol! Er gwaethaf heriau’r pandemig mae ein myfyrwyr ni wedi gwneud gwaith anhygoel ac mae gweld y bydd saith ohonyn nhw’n cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol WorldSkills y DU yn gyflawniad anhygoel.

“Rydw i’n hynod falch o’r holl fyfyrwyr a’r staff ar draws y Coleg sydd wedi gweithio mor galed a gyda chymaint o ymroddiad i gefnogi ein dysgwyr ni i gyrraedd y lefel elitaidd yma.”