Ymunwch â Theulu Coleg Caerdydd a’r Fro ar Daith Lles er budd Felindre

18 Rhag 2020

Mae staff a myfyrwyr o Goleg Caerdydd a'r Fro wedi bod yn mynd ar Deithiau Lles i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre.

Ym mis Medi 2019, nododd y Coleg ei ymrwymiad i godi arian ar gyfer Felindre drwy ddigwyddiadau amrywiol yn ystod blwyddyn academaidd 2019-20. Yn anffodus, oherwydd y pandemig, nid oedd posib i’r digwyddiadau codi arian cymunedol yma gael eu cynnal felly nid yw CAVC wedi gallu gwneud cymaint ag yr oedd yn ei obeithio.

Dyma pam gafodd y Coleg y syniad o fynd ar Daith Lles er budd Felindre yn ystod y 14eg i’r 18fed o Ragfyr. Mae'r Daith Lles yn galluogi i bobl neilltuo peth amser o'u hwythnos waith iddynt hwy eu hunain gan hefyd godi arian ar gyfer elusen bwysig yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig.

Mae staff a myfyrwyr y coleg yn dewis amser yn ystod eu hwythnos i gamu allan a mynd am dro ac wedyn gwneud cyfraniad bach at Felindre. Mae rhai aelodau o staff wedi dechrau eisoes; o fewn awr i'r dudalen JustGiving fynd yn fyw roedd mwy na £100 wedi'i gyfrannu eisoes. Os hoffech chi gyfrannu, mae'r ddolen JustGiving ar gael yma: https://www.justgiving.com/fundraising/cavcwalkforvelindre  

Dywedodd Pennaeth CAVC Kay Martin: “Mae Felindre yn elusen sy'n agos iawn at ein calonnau ni yma yn y Coleg ac roedden ni’n siomedig nad oedd posib i ni gynnal digwyddiadau codi arian ar eu cyfer eleni ar y raddfa y byddem wedi'i hoffi. Dyma pam y gwnaethom feddwl am Daith Lles – cyfle i Deulu CAVC neilltuo amser cwbl haeddiannol iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd, cael awyr iach ac ymarfer corff a chodi arian i'r elusen wych yma.”