Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Ffion Paschalis

Fel rhan o'r Tîm Datblygu Busnes, mae Ffion yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar atebion hyfforddi i'w sefydliad. Mae Ffion yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau yn y diwydiannau Adeiladu a Pheirianneg. 

Mwy am Laura

Gyda chefndir ym maes Recriwtio ac Eiddo Tirol, mae Ffion yn frwdfrydig dros nodi a datrys prinder sgiliau yn y gweithle. Mae hi'n gweithio gyda busnesau yn amrywio o fusnesau bach a chanolig i gwmnïau rhyngwladol mawr, a'i nod yw creu partneriaethau hirdymor, strategol rhwng y busnes a'r Coleg. Mae'r partneriaethau hyn yn cynnwys datblygu atebion hyfforddi pwrpasol, cefnogi strategaeth twf a bodloni targedau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.