CAD mewn Adeiladu - Dylunio gyda Chymorth Cyfrifiadur 2D

L2 Lefel 2
Rhan Amser
7 Hydref 2024 — 7 Chwefror 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd yr uned hon yn cyfarparu myfyrwyr â'r ddealltwriaeth ac egwyddorion sylfaenol o amgylcheddau dylunio 2D o ran caledwedd, meddalwedd ac amgylchoedd ffisegol. Bydd yn archwilio cyfansoddiad cyffredinol system Modelu CAD a materion Iechyd a Diogelwch sy'n gysylltiedig ag arferion gweithio diogel.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Ar y cwrs hwn, byddwch yn dysgu sut i:

  1. Ddefnyddio man gweithio CAD yn ddiogel
  2. Gallu defnyddio cydrannau allweddol a ddefnyddir mewn meddalwedd CAD 2D
  3. Yn gallu creu llinellau a siapiau mewn perthynas â system gydlynu
  4. Yn gallu defnyddio testun, llinellu ac arferion dimensiynu syml
  5. Gallu addasu darluniau sydd eisoes yn bodoli
  6. Gallu creu cynllun o ddyluniad 2D

Y cam nesaf ar ôl y cwrs hwn fyddai datblygu sgiliau pellach mewn peirianneg sifil a thechnoleg adeiladu, drwy astudio un o'n cyrsiau Adeiladu a'r amgylchedd adeiledig Lefel 3, yn llawn amser neu ran amser.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £40.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Gofynion mynediad

Cyfweliad boddhaol ac awydd i symud ymlaen yn y Diwydiant Adeiladu a Dylunio. CDP/Offer sydd ei angen i astudio - Gliniadur neu’r gallu i ddefnyddio cyfrifiadur gartref.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Hydref 2024

Dyddiad gorffen

7 Chwefror 2025

Amser o'r dydd

yn y nôs

Rhan Amser

4 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-30. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CPCC2P01
L2

Cymhwyster

60151158 City & Guilds Level 2 Award In 2D Computer Aided Design

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

CCTC,
Heol Dumballs,
Caerdydd,
CF10 5FE