Excel Sylfaenol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
26 Mehefin 2024 — 26 Mehefin 2024
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Hyfforddiant Sylfaenol Excel wedi’i ddylunio i gyflwyno a datblygu sgiliau sylfaenol ar gyfer cofnodi a phrosesu data o fewn Microsoft Excel.

Diddordeb? Edrych isod i weld pa bynciau y gallwn eu hastudio!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Dylunnir pob sesiwn i fowldio lefel profiad y rhai sy’n mynychu pob sesiwn. 

Gallwn astudio pynciau fel;

Sut i fewnbynnu a threfnu data

- Newydd; Agor; Cadw; Cadw fel
- Tabiau dewislen
- Celloedd; Rhesi; Colofnau; Tabiau; Lliw llenwi celloedd; Fformat celloedd
- Pwyntyddion a handlenni llenwi
- Testun; Bras; Italig; Tanlinellu; Lliw testun; Canol; Chwith a dde
- Bar offer mynediad cyflym
- Torri; copïo; pastio; teclyn torri; gwiriwr sillafu
- Rheoli golygon; Arferol; Toriad tudalen; Paenau rhewi; Paenau hollti; Bar Dangos Fformiwla, Llinellau Grid a Phenawdau
- Gosodiad a chyfeiriad tudalen; Arwynebedd argraffu; Rhagolwg argraffu; Gosodiad tudalen; Penawdau a Throednodiadau

Rheoli Data

- Trefnu sylfaenol
- Canfod a disodli
- Cadw fel CSV/ Llyfr gwaith Excel
- Mewnbynnu o CSV/ Testun

Cyfrifiadau a Fformiwlâu Sylfaenol Excel

- Cyfrifiadau sylfaenol, gan gynnwys effaith fformadu celloedd
- BODMAS a defnyddio cromfachau
- Fformadu rhifau; Lleoedd degol; Arian, Canrannau etc.
- Cyfrifiadau cysylltiedig
- Effaith rhifau negyddol ar gyfrifiadau

Gweithrediadau Sylfaenol Excel

- Swm ac Awtoswm
- Lleiafswm
- Mwyafswm
- Cyfartaledd
- Cyfrif
- Talgrynnu (I'w ddefnyddio yn enwedig gydag arian a chyfrifiadau cysylltiedig)

Addysgu ac Asesu

Darperir y cwrs 1 diwrnod hwn ar y safle rhwng 9.30am – 4:00pm. 

Gofynion mynediad

Addas ar gyfer y rhai gydag ychydig o wybodaeth/profiad Microsoft Excel yn unig, neu ar gyfer y rhai sy’n dymuno adnewyddu eu gwybodaeth gyfredol ynglŷn â’r pynciau uchod.

Ariennir y cwrs hwn drwy brosiect Multiply Llywodraeth y DU felly bydd yn ofynnol i chi gwblhau ffurflen Ddatganiad pan fyddwch yn mynychu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

26 Mehefin 2024

Dyddiad gorffen

26 Mehefin 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSXEFB
L2

Cymhwyster

Basic Excel

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Diddordeb mewn parhau â’ch taith Excel? Beth am symud ymlaen i’n Diwrnod Hyfforddiant Canolradd Excel?

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ