Cyllid ar gyfer Rheolwyr Anariannol

Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol. Dewiswch leoliad.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i ‘iaith ariannol’ a’r hyn sy’n cael ei gynnwys mewn Datganiadau Ariannol megis Elw a Cholled, Mantolen a Datganiad Llif Arian Parod, gan gynnwys eglurhad o’r derminoleg.

Yna, byddwch yn ehangu ar hyn i drafod rheoli costau trwy archwilio mathau o gostau ac ymddygiad. Mae’r rhan hon yn darparu’r sylfaen ar gyfer archwilio cyllidebau sylfaenol ac ymdrin ag amrywiant.

Yn olaf, cewch gyflwyniad i ddehongli Datganiadau Ariannol ar lefel sylfaenol, gan gynnwys Elw Gros, Elw Net, pa mor hir mae ein cwsmeriaid yn ei gymryd i’n talu, pa mor hir ydym ni’n ei gymryd i dalu cyflenwyr, ac am faint yr ydym yn cadw stoc ac ati.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol
This course is presented in several different locations, please choose the one convenient for you above.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ