Mathemateg Feddygol

L2 Lefel 2
Rhan Amser
7 Awst 2024 — 7 Awst 2024
Campws y Barri

Ynghylch y cwrs hwn

Bydd Mathemateg Feddygol yn darparu trosolwg a dealltwriaeth o’r mathemateg a ddefnyddir yn gyson yn y byd Meddygol.

P’un a ydych yn awyddus i fynd i’r Sector Meddygol neu i uwchsgilio eich hun, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o gyfrifiadau a fformiwlâu perthnasol drwy ddysgu dan arweiniad tiwtor, cwestiynau ymarfer a thasgau ar sail senarios.

Er ein bod wedi dylunio’r cwrs hwn ar gyfer y Sector Meddygol, gellir cymhwyso’r sgiliau mathemategol sydd ynghlwm â’r sesiwn y tu hwnt i’r maes meddygol yn rhwydd.

Diddordeb? Edrychwch isod i weld pa bynciau y byddwn yn eu hastudio!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Mae’r sesiwn yn canolbwyntio’n bennaf ar y cyfrifiadau canlynol:

  • Cyfaint o Feddyginiaethau sydd ei angen
  • Cyfradd Llif
  • Diferyn fesul munud
  • Dogn
  • Crynodiad stoc

Byddwn hefyd yn ymchwilio i:

  • Sgyrsiau Metrig
  • BIDMAS/BODMAS
  • Sut i ddarllen Fformiwla Fathemategol
  • Talgrynnu i un ffigwr ystyrlon a thalgrynnu addas
  • Sut i amcangyfrif yn gywir
  • Adnabod gwallau mathemategol cyffredin
  • Sut i ddarllen graddfeydd

Addysgu ac Asesu

Darperir y cwrs 1 diwrnod hwn ar y safle rhwng 9.30am – 4:00pm.

Gofynion mynediad

Addas ar gyfer unigolion sy’n awyddus i fynd i’r Sector Meddygol neu i uwchsgilio yn y sector, NEU ar gyfer unigolion sydd angen y wybodaeth a’r ddealltwriaeth fathemategol a amlinellir uchod.

Ariennir y cwrs hwn drwy brosiect Multiply Llywodraeth y DU felly bydd yn ofynnol i chi gwblhau ffurflen Ddatganiad pan fyddwch yn mynychu.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

7 Awst 2024

Dyddiad gorffen

7 Awst 2024

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

7 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws y Barri
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSXMM
L2

Cymhwyster

Medical Maths

Lleoliadau

Campws y Barri
Campws y Barri

Coleg Caerdydd a'r Fro,

Campws y Barri,

Bro Morgannwg,

CF62 8YJ