Ein Partneriaeth gyda BBC Cymru Wales

Mae CCAF yn gweithio mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales i lansio tri chynllun hyfforddi a phrentisiaeth newydd i daflu ei rwyd yn ehangach nag erioed o’r blaen wrth chwilio am staff newydd. Hefyd mae’r darlledwr yn cynnig cefnogaeth eang i’r rhai sydd eisiau dysgu mwy am yrfa gyda’r BBC a gwneud cais am swydd, gyda ffocws ar annog mwy o bobl o gefndiroedd a dangynrychiolir i ymgeisio. 

Mae’r bartneriaeth hynod greadigol ac eang yma’n cynnig cyfleoedd i gyfranogwyr ar ffurf ‘Dyddiau Darganfod’ a Rhaglen Camau Cyntaf sy’n cynnwys amser yn y BBC, neilltuo mentor a gweithdai i helpu i baratoi ymgeiswyr ar gyfer y broses ymgeisio am brentisiaeth, gyda 10 Prentisiaeth Newyddiaduraeth Ddigidol ar gael yng Nghymru i unrhyw un dros 18 oed.              

Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:

“Ar adeg o newid na welwyd ei debyg o’r blaen, mae hwn yn gyfle i ni helpu i ddatblygu cenhedlaeth newydd o grëwyr cynnwys mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’n hanfodol ein bod ni’n hybu mwy o amrywiaeth ar draws y diwydiannau creadigol yng Nghymru a bydd y rhaglen newydd yma’n helpu i roi hwb mawr i’n hymdrechion ni. Bydd y cynllun hefyd yn chwarae rhan bwysig mewn cryfhau hyfforddiant newyddiaduraeth yng Nghymru.” (Mawrth 2018)

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Cynhyrchu Cynnwys yn BBC Cymru Wales:

“Mae’r BBC eisiau recriwtio’r bobl orau a’r bobl mwyaf disglair a nod y cynlluniau yma yw rhoi gwybodaeth i bobl o bob cefndir am beth rydyn ni’n ei wneud, a’u cefnogi nhw os byddan nhw’n penderfynu gwneud cais am brentisiaeth. Mae cyfleoedd talent a Phrentisiaethau Newyddiaduraeth Ddigidol BBC Cymru Wales yn ceisio agor y drysau a gwneud y BBC mor gynhwysol â phosib, fel bod pobl dalentog a chreadigol o bob cefndir yn teimlo eu bod nhw’n gallu gwneud cais i weithio yma.”

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro:               

“Mae gan Goleg Caerdydd a’r Fro hanes maith o weithio gyda’r BBC i ddarparu cyfleoedd dysgu yn y gwaith ar gyfer pobl ifanc yn y Cyfryngau Creadigol a Digidol felly mae’r brentisiaeth newydd yma’n gyfle rhagorol i ddatblygu ein perthynas faith ni gydag un o gyflogwyr mwyaf y wlad yma. Rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin twf a datblygu potensial ar draws yr holl gymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu felly mae ymrwymiad y BBC i sicrhau bod y brentisiaeth newydd yma’n hybu mwy o amrywiaeth yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru i’w groesawu’n fawr ac rydyn ni’n hynod falch o fod yn rhan o hynny.”
                                                                                                               
Mae Dyddiau Darganfod ar droed eisoes ledled Cymru, gyda dyddiadau yn y dyddiadur ar gyfer Bangor, Bae Colwyn a Glannau Dyfrdwy yn y gogledd, yn ogystal â Chasnewydd, Caerdydd ac Abertawe. Yn y cyfamser, bydd y broses ymgeisio’n agor ym mis Ionawr i dderbyn y criw cyntaf ar gyfer Prentisiaethau Newyddiaduraeth Ddigidol BBC Cymru Wales a fydd yn dechrau ym mis Medi 2019. Mae’r 10 swydd lawn amser yma, sy’n lleoliadau dwy flynedd, yn ychwanegol at y 25 o brentisiaethau mae BBC Cymru Wales yn eu cynnig eisoes bob blwyddyn. Bydd yr hyfforddiant yn cael ei gyflwyno gan Goleg Caerdydd a’r Fro, mewn partneriaeth â BBC Academy.


Mewn partneriaeth â

Chris Duffy
Ymgynghorydd Datblygu Busnes
029 20 250 350
Prentisiaethau

Dilynwch Ni 

LinkedIn    twitter icon