Gweithio gyda Dow

Mae Coleg Caerdydd a’r Fro wedi ffurfio partneriaeth gyda Dow i lansio ei gynllun prentisiaeth cyntaf gyda choleg lleol, i ddarparu gwybodaeth uniongyrchol ac ymarferol i fyfyrwyr ar gyfer eu dyfodol. 

Mae’r rhaglen tair blynedd yn derbyn deg Prentis Gweithredwr Cemegol bob blwyddyn. Mae’r prentisiaid yn astudio’n llawn amser yn y Coleg yn ystod eu blwyddyn gyntaf ac wedyn yn treulio pedwar diwrnod yr wythnos ar safle eu cyflogwr, Dow, yn yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Bydd y rhaglen uwch yn darparu i’r prentisiaid gyfuniad o sgiliau theori ac ymarferol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Mae Dow yn gwmni Fortune 50 rhyngwladol sy’n gweithredu mewn mwy na 180 o wledydd ac yn cyflogi bron i 50,000 o bobl ym mhob cwr o’r byd. Wedi’i sylfaenu yn 1897 ym Michigan, UDA, mae Dow wedi bod yn gweithredu yn y DU ers y 1950au.     

Heddiw, mae’n cyfuno pŵer gwyddoniaeth a thechnoleg i gynnig datrysiadau arloesol i ddiwydiannau amrywiol, gan gynnwys pecynnu, gofal defnyddwyr, a seilwaith. Gyda chyfleoedd i Weithredwyr Cemegol, mae cynllun prentisiaeth Dow yn gyfle unigryw i ddysgu wrth weithio mewn rôl gyda chyflog fel rhan o Gynllun Prentisiaeth sydd wedi’i achredu’n llawn gan City & Guilds a PAA/VQSET, a’i gymeradwyo gan Cogent, corff y sector ar gyfer Gweithgynhyrchu Cemegol.                 

Dywedodd Alex Laurie, Arweinydd Dysgu Hwb gyda Dow: “Mae’r cynllun prentisiaeth yma’n cynnig llwybrau mynediad newydd i fyfyrwyr i yrfa mewn gwyddorau deunyddiau drwy ddysgu’r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw. Hefyd mae’n sicrhau ein bod ni’n meithrin cronfa o dalentau i gynnal ein busnes yn y tymor hir yn y gymuned.                

“Gan weithio gyda Choleg Caerdydd a’r Fro, bydd gan y prentisiaid yr wybodaeth a’r sgiliau gofynnol ar gyfer eu datblygiad ac fe fyddwn ni’n creu gweithlu brwd, llawn cymhelliant hefyd.”

Mae’r prentisiaid eisoes yn sicrhau canlyniadau ar eu rhaglen, sef y rhaglen gyntaf i Dow ei gweithredu gyda choleg lleol. Mae eu hymateb i’r rhaglen wedi bod yn eithriadol bositif.                 

Dywedodd un Prentis Gweithredwr Cemegol, Ben Cresswell: “Mae’n braf iawn bod yn rhan o’r criw newydd o weithredwyr ac yn hwb mawr.”

“Mae gallu dysgu yn y swydd ac fel arall gyda chefnogaeth tîm anhygoel a gyda chwmni byd-enwog yn rhagorol,” ychwanegodd prentis arall, Tristan Jeans.

Dywedodd Prentis Gweithredwr Cemegol arall gyda Dow, Liam Angel: “Mae’n gyfle gwych ac rydw i’n mwynhau’n fawr. Rydw i’n teimlo’n rhan o rywbeth arbennig; cwrs arbennig gyda chefnogaeth cwmni arbennig a phobl ardderchog yn y coleg ac ar y safle.”

Dywedodd Is Bennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Mary Kent: "Mae Coleg Caerdydd a’r Fro’n hynod falch o fod yn gweithio gyda Dow ar y cynllun prentisiaeth arloesol yma. Mae’r prentisiaethau yma nid yn unig yn darparu cyfleoedd unigryw i unigolion adeiladu eu gyrfaoedd yn y dyfodol, ond hefyd mae’n dangos sut gall y sectorau preifat ac addysg gydweithio’n llwyddiannus i wella sgiliau a datblygu’r gweithlu.”   

Mewn partneriaeth â

Leanne Waring
Rheolwr Datblygu Busnes
029 20 250 350
Prentisiaethau

Dilynwch Ni

LinkedIn    twitter icon