Cefnogi Cynllun Datblygu'r Gweithlu Hafod ar gyfer y dyfodol

Yn ddiweddar cyhoeddodd Coleg Caerdydd a’r Fro a Hafod bartneriaeth strategol newydd a fydd yn sicrhau bod CCAF yn gallu cefnogi Hafod gyda’u cynllun datblygu gweithlu yn y dyfodol. Drwy Academi Hafod, mae cydweithwyr yn cael mynediad i amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu a datblygu.             

Dyma’r bartneriaeth gyntaf o’i bath rhwng y coleg a darparwr tai, cymorth a gofal ac mae’n rhan o ymrwymiad Hafod i ddatblygu gyrfaoedd.                

Mae Hafod yn cyflogi mwy na 1,300 o staff ar draws amrywiaeth eang o swyddogaethau ac mae’n ymfalchïo yn ei weithlu medrus ac ymroddedig. Mae cefnogi cydweithwyr i fod y gorau y gallant fod yn sicrhau bod Hafod yn cyflwyno’r gwasanaeth gorau i gwsmeriaid ac yn cyflawni cenhadaeth y sefydliad o Wneud Bywydau’n Well.

Llofnodwyd memorandwm o ddealltwriaeth rhwng Hafod a Choleg Caerdydd a’r Fro ym mis Hydref 2018, gan hwyluso ymrwymiad strategol a gweithredol i weithio mewn partneriaeth ar draws meysydd amrywiol i gefnogi sgiliau a datblygu talent. Mae cwmpas y gweithgareddau’n cynnwys darparu’r canlynol:

  • Cymwysterau gofal yn unol â safonau rheoleiddiol ar gyfer staff newydd a phresennol
  • Amrywiaeth eang o gymwysterau a phrentisiaethau ar gyfer staff newydd a phresennol
  • Hyfforddiant Arweinyddiaeth a Rheolaeth wedi a heb ei achredu   
  • Darpariaeth sy’n cefnogi datblygiad gyrfaol ar draws pob maes busnes  
  • Hyfforddiant Sgiliau Hanfodol
  • Cefnogaeth arall gyda dysgu a datblygu fel sydd angen          

Dywedodd Jas Bains, Prif Weithredwr Hafod: “Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu lle gwych i weithio a datblygu ein staff ac rydyn ni wir wedi cyffroi am ein partneriaeth gyda Choleg Caerdydd a’r Fro. Bydd yn helpu i ddarparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel i’n cydweithwyr ni, i sicrhau bod gennym ni’r sgiliau priodol i gyflawni ein gweledigaeth a darparu gwasanaethau o’r safon uchaf i’n cwsmeriaid ni.”

Dywedodd Kay Martin, Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro: “Rydyn ni mor falch o fod yn gweithio gyda Hafod – cwmni sy’n croesawu hyfforddiant fel grym positif ar gyfer ei weithlu a’u gofynion o ran sgiliau yn y dyfodol wrth iddyn nhw wneud cynnydd drwy eu gyrfaoedd. Yn CCAF rydyn ni’n credu’n gryf mewn datgloi potensial pobl drwy ddatblygu sgiliau a gwybodaeth, ac mae ymrwymiad Hafod i Wneud Bywydau’n Well yn cyd-fynd yn berffaith â’n cenhadaeth ni i weithio gydag ac ar ran cymunedau ac economi’r rhanbarth.”

Mewn partneriaeth â  

Tasmin Pickford
Ymgynghorydd Datblygu Busnes
029 20 250 350
Tîm Prentisiaethau

Dilynwch Ni

LinkedIn    twitter icon