Mae Kay Martin, Pennaeth Grŵp Coleg Caerdydd a’r Fro, wedi derbyn MBE yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer 2022 am wasanaethau i Addysg yng Nghymru.
Gellir dadlau ei bod ymhlith un o arweinwyr addysg mwyaf dylanwadol y wlad. Mae Kay yn Bennaeth Grŵp ar y pumed grŵp coleg mwyaf yn y DU a’r mwyaf yng Nghymru.
Yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth mae’r Coleg arloesol wedi dod yn un o’r colegau mwyaf, a mwyaf llwyddiannus, yn y DU. Ennill gwobrau cenedlaethol mawreddog, cynyddu cyfraddau llwyddiant myfyrwyr, sefydlu dulliau unigryw a thrawsnewidiol o ddysgu, a chefnogi twf busnes arloesol; y cyfan gan weithio mewn rhanbarth sydd â'r dirwedd fwyaf amrywiol yn y wlad.
Mae Kay yn chwarae rhan hynod ddylanwadol wrth drawsnewid addysg a hyfforddiant ar draws Prifddinas-Ranbarth Cymru sy’n rhychwantu Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith, Dysgu Oedolion a Chymunedol ac Addysg Uwchradd.
Mae’n Gadeirydd Grŵp Cwricwlwm ac Ansawdd Colegau Cymru; yn Llywodraethwr ar ddwy o ysgolion uwchradd y rhanbarth; yn aelod o Busnes yn y Gymuned, Bwrdd Arweinyddiaeth Cymru a darparwr arweiniol un o'r contractau dysgu seiliedig ar waith mwyaf yng Nghymru.
Yn enedigol o Aberdâr, astudiodd Kay gwrs Rheoli Lletygarwch cyn cymhwyso fel athrawes a dechrau gweithio yng Ngholeg Aberdâr lle daeth yn Bennaeth Cynorthwyol maes o law. Yn eiriolwr o blaid dysgu gydol oes, cwblhaodd Kay MSc mewn Rheoli Addysg ac ymunodd â Choleg y Barri fel Is Bennaeth yn 2003. Daeth Kay yn Bennaeth Dros Dro Coleg y Barri yn ddiweddarach a chwaraeodd ran allweddol yn yr uno a arweiniodd at greu Coleg Caerdydd a’r Fro yn 2011.
Wrth dderbyn y newyddion am ei MBE, dywedodd Kay:
“Mae’n sioc ac rydw i’n teimlo’n wylaidd yn derbyn yr anrhydedd yma. Rydw i bob amser wedi bod yn angerddol am addysg ac am gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc felly mae’n hyfryd cael y gydnabyddiaeth yma am rywbeth sydd mor agos at fy nghalon i.
“Rydw i wedi bod yn ffodus i weithio gyda thîm anhygoel o bobl dros y blynyddoedd yma yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro, a thrwy gydol fy ngyrfa, ac i gael teulu hynod gefnogol, sydd i gyd wedi chwarae eu rhan yn hyn.
“Rydw i’n teimlo mor gryf nawr ag oeddwn i ar ddechrau fy ngyrfa am y rôl y mae addysg yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n parhau i fodoli yn ein cymdeithas ni ac wrth gefnogi pawb i gyflawni eu potensial.”