Gweithred yw Gobaith: Dysgwyr ESOL Coleg Caerdydd a’r Fro yn cyfrannu at Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd 2024

24 Ebr 2024

Mae dysgwyr ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Coleg Caerdydd a’r Fro wedi cyfrannu tuag at Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru 2024, a fydd yn cael ei rhyddhau ar 17eg Mai.
Mae’r neges eleni yn dathlu canmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24 ac yn amlygu’r angen parhaus am eiriol dros heddwch gan mlynedd yn ddiweddarach.

Ym mis Chwefror 1924, agorwyd cist Deiseb Heddwch Merched Cymru gyda’i 390,296 o lofnodion o flaen 600 o ferched o’r Unol Daleithiau yng Ngwesty’r Baltimore yn Efrog Newydd. Mae’r weithred hon o obaith am heddwch byd-eang wedi ysbrydoli’r Urdd i ddod â grŵp o ferched ifanc at ei gilydd i greu’r Neges Heddwch ac Ewyllys Da eleni – gan gynnwys dysgwyr ESOL o CCAF.

Bob blwyddyn ers 1922 mae’r Urdd wedi cyhoeddi neges flynyddol ym mis Mai gyda thema wahanol o heddwch ac ewyllys da. Wedi'i chyfathrebu i ddechrau drwy god Morse, ac wedyn drwy'r BBC World Service ac, yn fwy diweddar, drwy gyfryngau digidol, mae'r neges wedi mynd allan bob blwyddyn yn ddi-ffael.

I greu’r neges eleni cynhaliodd yr Urdd weithdy gydag aelodau o staff, prentisiaid a gwirfoddolwyr yr Urdd a dysgwyr ESOL CCAF. Arweiniodd Elan Evans a’r bardd a’r gantores Casi Wyn y gweithdy lle bu’r dysgwyr yn sôn am eu profiadau o heddwch – a’r diffyg heddwch yn eu bywydau blaenorol – ac arwyddocâd hanesyddol y ddeiseb. Wedyn trawsnewidiodd Casi Wyn syniadau a chyfraniadau’r merched ifanc yn neges 2024 – Gweithred yw Gobaith.

Bydd neges eleni yn cael ei rhyddhau ar ffurf ffilm fer ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn digwyddiad arbennig yn arddangosfa Deiseb Heddwch y Merched yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ar 17eg Mai.
Mae Shatw Ali yn un o’r dysgwyr ESOL a gyfrannodd at y neges. Dywedodd:

“Mae heddwch yn golygu nad oes rhaid i rieni boeni am sut i fwydo eu plant. Lle gall plant wylio tân gwyllt yn lle gwylio bomiau'n disgyn o'r awyr.

“Efallai ei fod yn ymddangos yn amhosib dod o hyd i le felly ar y blaned yma ond os edrychwch chi’n ofalus fe ddewch chi o hyd iddo, yn union fel y dois i o hyd i Gymru. Gwlad, gwerddon o dawelwch yng nghanol y byd anhrefnus.”

Dywedodd Shatw bod cymryd rhan yng ngweithdy’r Urdd wir wedi gwneud iddi feddwl.

“Fe wnaeth y gweithdy i mi sylweddoli bod cymaint mwy o bobl yn chwilio’n daer am heddwch ac yng nghalon pawb mae yna ran sydd eisiau profi heddwch o leiaf unwaith yn eu hoes dim ots beth yw eu hil, oedran, rhywedd neu gefndir,” eglurodd.

“Rydw i wir yn edrych ymlaen at weld y neges yn mynd allan. Fe wnaeth y grŵp a’r staff i gyd weithio’n galed arni felly rydw i’n edrych ymlaen at weld sut bydd y neges yn y diwedd.”

Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: “Rydyn ni’n eithriadol falch bod ein dysgwyr ESOL ni wedi cael cais i gyfrannu at Neges Heddwch ac Ewyllys Da ysbrydoledig Urdd Gobaith Cymru eleni, sy’n dathlu canmlwyddiant Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923- 24.

“Mae llawer o’n dysgwyr ESOL ni wedi dod atom ni o rannau o’r byd sydd ddim yn gwybod fawr ddim am heddwch, felly roedd gallu cymryd rhan yn y gwaith o greu a recordio’r neges hon yn fwy teimladwy iddyn nhw. Fel Coleg sydd wedi’i leoli yng nghalon un o gymunedau mwyaf bywiog ac amrywiol Cymru, rydyn ni wrth ein bodd bod ein dysgwyr ni wedi cael eu dewis i helpu i gyflwyno’r neges wirioneddol
ryngwladol yma o obaith a chariad yn y cyfnod cythryblus hwn.”

https://www.urdd.cymru/cy/neges-heddwch-eleni/