Cyrsiau hyfforddi

Cyrsiau Undydd

Mae Rhaglen Cyrsiau Undydd CAVC ar gyfer busnes yn cynnig diwrnod i ymgolli mewn pwnc sy’n bwysig i bob busnes.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Fel un o Ganolfannau Cymeradwy mwyaf ILM yn y wlad, mae CAVC cynnig amrywiaeth o gymwysterau sy'n darparu hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth graidd i fusnesau.

Sgiliau ar gyfer Gwaith

Helpu oedolion i wella’u sgiliau rhifedd.

Academi Sgiliau

Mae ein cyrsiau Academi Sgiliau yn rhaglenni arddull bŵt-camp rhad ac am ddim.

Datblygu Eraill

Mae datblygu eraill yn eich busnes drwy hyfforddi, mentora, addysgu a hyfforddi'n ffordd hanfodol o ddiogelu dyfodol eich busnes. Nod ein cyrsiau Datblygu Eraill yw helpu i'ch arwain chi drwy'r technegau perthnasol.

Digidol a TG

Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau Digidol a TG ar bob lefel, i helpu i wella effeithlonrwydd a chymhwysedd yn y gweithle yn Academi risual benodol.

Adnoddau Dynol - CIPD

Mae ein cymwysterau a'n cyrsiau CIPD yn eich helpu chi i feithrin eich sgiliau presennol a datblygu sgiliau newydd mewn Adnoddau Dynol.

Iechyd a Diogelwch

I unrhyw sefydliad, mae Iechyd a Diogelwch yn hollbwysig. Rydyn ni'n cynnig nifer o gyrsiau i sicrhau bod gennych chi fesurau priodol yn eu lle i reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol.

Plymio, Nwy a Thrydanol

Mae ein cymwysterau proffesiynol achrededig yn cael eu cydnabod gan y diwydiannau adeiladu, peirianneg a thrydanol.

Hyfforddiant Moduro

Wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant moduro, mae'r casgliad hwn o gyrsiau'n cynnig achrediadau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant.

Cyfrifeg a Chyllid

Os ydych chi eisiau dechrau ar yrfa neu eisiau datblygu eich gyrfa ymhellach ym maes cyfrifeg a chyllid, mae ein cyrsiau AAT yn gallu eich helpu chi i gymryd y camau gofynnol tuag at Statws Siartredig.

Marchnata

Rydyn ni'n cynnig nifer o gyrsiau'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) ar gyfer marchnatwyr proffesiynol a'r rhai sydd eisiau symud i yrfa mewn marchnata.

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau i'r rhai sy'n gweithio yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod ein cyrsiau ni yw bodloni'r gofynion angenrheidiol o ran sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol yn uniongyrchol i swyddi yn y sector.