Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl CIPD - Ar-lein a Dosbarth Rhithiol

L5 Lefel 5
Rhan Amser
2 Mawrth 2027 — 31 Hydref 2028
Ar-lein
£: Mae'r cwrs hwn yn gymwys i gael ffioedd cwrs gostyngol trwy fwrsariaeth i oedolion mewn anhawster ariannol. Ewch i cavc.ac.uk/cy/PartTimeFunding i gael gwybod mwy.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r Diploma Cyswllt Rheoli Pobl Lefel 5 yma yn ddelfrydol ar gyfer uwch ymarferwyr pobl cyfredol a rhai sy’n anelu i fod yn uwch ymarferwyr pobl.  

Cwblheir y cwrs dros 8–12 mis  drwy gyfuniad strwythuredig o hunan-astudio ar y Llwyfan Dysgu Mindful Education a grwpiau tiwtorial bob pythefnos gyda’ch Tiwtor Cwrs, a gynhelir ar foreau Mercher o 9:30am tan 11:30am (yn ystod y tymor yn unig) ar Microsoft Teams. 

Mae’r cymhwyster hwn hefyd ar gael drwy ein Llwybr Prentisiaeth, sy’n cynnig y cyfle i ddysgwyr ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle wrth astudio’r cymhwyster CIPD. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Mindful Education i gyflwyno'r cwrs hwn drwy gyfrwng ein model hyblyg Dosbarth Ar-lein a Rhithwir. 

Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r rhain ar gael ar alw, a gallwch eu gwylio ar eich ffôn, llechen neu gyfrifiadur - sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae gwersi'n para tua 45 munud ac yn cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i gyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach a dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 4-5 awr yr wythnos yn astudio'n annibynnol ar-lein. 

Yn y Dosbarth Rhithiol, byddwch yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noson yr wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd ar gael i gynnig arweiniad ynghylch cynnydd ac asesu. Bydd trafod yn rheolaidd â chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol a hefyd yn darparu'r gefnogaeth a'r cymhelliant ychwanegol a geir wrth fod yn rhan o grŵp. 

Dull Asesu: 
I gyflawni’r cymhwyster hwn, byddwch yn gweithio drwy gyfres o aseiniadau uned a bydd gan bob un dyddiad ac amser cyflwyno penodedig.  

Bwriad yr aseiniadau hyn yw eich helpu i fagu hyder a chymhwysedd wrth ddatblygu’r wybodaeth a’r ymddygiad craidd sydd wedi’u nodi yn y Map Proffesiwn CIPD (Lefel Cyswllt). 

Byddwch yn astudio 7 uned: 
- 5C001 Perfformiad a Diwylliant Sefydliadol yn Ymarferol 
- 5C002 Ymarfer Seiliedig ar Dystiolaeth 
- 5C003 Ymddygiadau Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl 
- 5HR01 Rheoli Perthynas Cyflogaeth 
- 5HR02 Rheoli Talent a Chynllunio Gweithlu  
- 5HR03 Gwobrwyo Perfformiad a Chyfraniad  
- 5OS01 Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol 

Ar ôl i chi gwblhau eich aseiniadau, caiff yr holl ganlyniadau eu hadolygu drwy broses Gymedroli swyddogol CIPD. Mae cymedroli’n digwydd yn ystod cyfnodau penodol drwy gydol y flwyddyn, a all ymestyn yr amser mae’n ei gymryd i gael eich cadarnhad terfynol. Ar ôl i’ch canlyniadau gael eu cymeradwyo, mae CIPD ei hun yn anfon ardystiad digidol, fel arfer ymhen pedair i chwe wythnos. 

Aelodaeth CIPD: 
I astudio’r cymhwyster hwn, bydd angen Aelodaeth CIPD weithredol arnoch am gyfnod llawn y cwrs. Nid yw ffioedd aelodaeth yn cael eu cynnwys ym mhris eich cwrs gan eu bod yn bersonol i chi ac yn gallu cael eu cynnal y tu hwnt i’ch cymhwyster er mwyn parhau i gefnogi eich taith broffesiynol. Mae gwybodaeth am Ffioedd Aelodaeth CIPD i'w chael ar wefan CIPD.  

Byddwn yn eich arwain drwy’r broses cofrestru aelodaeth wrth ymrestru er mwyn i chi gael dechrau arni'n ddidrafferth. 

Y broses ymgeisio: 
Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein tîm yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad Microsoft Teams o bell. Bydd y cyfarfod byr hwn gydag aelod o’r tîm CIPD yn asesu eich addasrwydd ar gyfer y cymhwyster yn unol â chanllawiau CIPD a dyma fydd yn gyfle i chi ddysgu rhagor am strwythur y cwrs.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £3,295.00

Gofynion mynediad

Gallwch wneud cais am y cwrs hwn os ydych chi'n bodloni'r pethau canlynol: • Yn 19 mlwydd oed neu hŷn • Ddim mewn addysg lawn amser nac wedi ymrestru ar gwrs CCAF a ariennir ar hyn o bryd • Yn gallu darparu tystiolaeth o TGAU Saesneg (A-C) neu gymhwyster cyfwerth/uwch. Os na allwch ddarparu'r dystiolaeth hon, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau tasg ysgrifenedig fer • Yn gweithio mewn uwch swydd ymarfer pobl ar hyn o bryd yn arwain a rheoli pobl ac ymarfer mewn sefydliad, neu brofiad o swydd o'r fath

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

2 Mawrth 2027

Dyddiad gorffen

31 Hydref 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn gymwys i gael ffioedd cwrs gostyngol trwy fwrsariaeth i oedolion mewn anhawster ariannol. Ewch i cavc.ac.uk/cy/PartTimeFunding i gael gwybod mwy.

Cod y cwrs

CSCIPD5PM04
L5

Cymhwyster

CIPD Associate Diploma in People Management (Online)
CIPD Platinum Logo

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Gall cwblhau Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl lefel 5 yn llwyddiannus wella eich rhagolygon o ran gyrfa’n sylweddol drwy eich darparu gyda sgiliau uwch mewn rheoli ac arweinyddiaeth AD strategol. Byddwch yn ennill gwell dealltwriaeth o amrywiaeth o feysydd arbenigol AD, gan eich gwneud yn ased gwerthfawr mewn unrhyw sefydliad.