Pecynnau hyfforddi pwrpasol

Wedi'i deilwra i'ch busnes

Rydym yn deall bod eich sefydliad yn unigryw, ac felly efallai y bydd angen pecyn hyfforddi arnoch wedi'i deilwra i'ch anghenion penodol chi.

Rydym yn gweithio gyda chi i greu rhaglen ddatblygu sydd nid yn unig yn diwallu anghenion cynrychiolwyr, ond sydd hefyd yn diwallu anghenion eich sefydliad wrth symud ymlaen. Ein nod yw gweithio gyda chi i ddarparu rhaglen gadarn sy'n darparu parhad o ran datblygiad ar draws eich sefydliad ac yn ategu'r mentrau hyfforddi effeithiol sydd eisoes ar waith. 

Petaech yn dewis symud ymlaen i weithio gyda ni, byddem yn ymrwymo i gyfarfod cynllunio pellach cyn i'r rhaglen ddechrau a byddem yn annog cyfathrebu i adolygu a datblygu eich rhaglen yn ôl yr angen yn ystod y broses o'i chyflwyno. 

MaryAnn
MaryAnn Hale
Partner Dysgu a Datblygu Busnes
029 20 250 350

Sut rydym yn gweithio

Cynllunio

Bydd ein Hymgynghorwyr Busnes ymroddedig yn cyfarfod â chi ac yn gweithio gyda chi i ddeall eich heriau a'ch nodau busnes. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon wedyn i greu rhaglen bwrpasol wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer eich anghenion busnes.

Gweithredu

Byddwn yn gweithio gyda chi i greu rhaglen ddatblygu sydd nid yn unig yn diwallu anghenion y rhai ar y rhaglen ond hefyd yn diwallu anghenion eich sefydliad. Ein nod ni yw cyflwyno rhaglen gadarn sy'n darparu cysondeb ledled eich sefydliad ac yn ategu'r mentrau hyfforddi sy'n bodoli eisoes.

Gwerthuso

Dydyn ni ddim yn gweld ein hyfforddiant ni fel un cyswllt. Rydyn ni'n dal i gefnogi eich busnes ar ôl i chi gael eich hyfforddiant, i sicrhau bod y rhaglen yn parhau o fudd i'ch busnes chi, a byddwn yn gweithio gyda chi i gadw ar flaen eich anghenion hyfforddi yn y dyfodol, gan helpu i gefnogi twf eich busnes yn y dyfodol a grymuso eich gweithlu.

Angen gwybod

Employer Partnerships

Partneriaethau Cyflogwyr

Rydyn ni'n ffurfio partneriaeth ac yn gweithio gyda sefydliadau i greu dull arloesol o ddysgu, gan helpu i rymuso'r gweithlu, datrys heriau busnes a chefnogi twf busnes yn y dyfodol.

Cwrdd â'r Tîm

Bydd ein harbenigwyr hyfforddi'n cwrdd â chi i ddeall eich busnes, eich amcanion gyda hyfforddiant ac i werthuso eich anghenion. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun hyfforddi sydd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer eich busnes, gan eich helpu chi i ddatrys heriau busnes a chefnogi twf yn y dyfodol.

Prentisiaethau

Nod ein rhaglenni prentisiaeth llwyddiannus yw cefnogi eich busnes drwy ddarparu sgiliau a chymwysterau ymarferol yn y swydd i'ch cyflogeion.
Rhowch eich manylion isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan
Hoffwn gael gwybodaeth yn y dyfodol am gynnyrch a gwasanaethau hyfforddi CAVC