Cyrsiau hyfforddi
Cyrsiau Undydd
Mae Rhaglen Cyrsiau Undydd CAVC ar gyfer busnes yn cynnig diwrnod i ymgolli mewn pwnc sy’n bwysig i bob busnes.
Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Fel un o Ganolfannau Cymeradwy mwyaf ILM yn y wlad, mae CAVC cynnig amrywiaeth o gymwysterau sy'n darparu hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth graidd i fusnesau.
Datblygu Eraill
Mae datblygu eraill yn eich busnes drwy hyfforddi, mentora, addysgu a hyfforddi'n ffordd hanfodol o ddiogelu dyfodol eich busnes. Nod ein cyrsiau Datblygu Eraill yw helpu i'ch arwain chi drwy'r technegau perthnasol.
Digidol a TG
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau Digidol a TG ar bob lefel, i helpu i wella effeithlonrwydd a chymhwysedd yn y gweithle yn Academi risual benodol.
Adnoddau Dynol - CIPD
Mae ein cymwysterau a'n cyrsiau CIPD yn eich helpu chi i feithrin eich sgiliau presennol a datblygu sgiliau newydd mewn Adnoddau Dynol.
Iechyd a Diogelwch
I unrhyw sefydliad, mae Iechyd a Diogelwch yn hollbwysig. Rydyn ni'n cynnig nifer o gyrsiau i sicrhau bod gennych chi fesurau priodol yn eu lle i reoli iechyd a diogelwch yn effeithiol.
Plymio, Nwy a Thrydanol
Mae ein cymwysterau proffesiynol achrededig yn cael eu cydnabod gan y diwydiannau adeiladu, peirianneg a thrydanol.
Hyfforddiant Moduro
Wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant moduro, mae'r casgliad hwn o gyrsiau'n cynnig achrediadau proffesiynol a gydnabyddir gan y diwydiant.
Arlwyo a Lletygarwch
Gydag achrediad HABC, rydyn ni'n cynnig cyfoeth o gyrsiau arlwyo, lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd proffesiynol ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant
Cyfrifeg a Chyllid
Os ydych chi eisiau dechrau ar yrfa neu eisiau datblygu eich gyrfa ymhellach ym maes cyfrifeg a chyllid, mae ein cyrsiau AAT yn gallu eich helpu chi i gymryd y camau gofynnol tuag at Statws Siartredig.
Marchnata
Rydyn ni'n cynnig nifer o gyrsiau'r Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM) ar gyfer marchnatwyr proffesiynol a'r rhai sydd eisiau symud i yrfa mewn marchnata.
Y Gyfraith
Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau CILEx i unigolion sy'n awyddus i astudio'r Gyfraith ar Lefel Broffesiynol .
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau i'r rhai sy'n gweithio yn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod ein cyrsiau ni yw bodloni'r gofynion angenrheidiol o ran sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol yn uniongyrchol i swyddi yn y sector.
Ieithoedd
O lefel dechreuwr i uwch, rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau ar gyfer pob gallu a lefel sgil ar draws nifer o wahanol ieithoedd.