Prentisiaethau
Beth yw Prentisiaeth?
Mae prentisiaethau'n cyfuno sgiliau yn y swydd gyda dysgu y tu allan i'r swydd i roi sgiliau a chymwysterau ymarferol i gyflogeion newydd a phresennol i helpu i ddiwallu anghenion busnes nawr ac yn y dyfodol.
Mae prentisiaid yn rhan o'ch gweithlu ac yn ennill cyflog ac yn gweithio ochr yn ochr â staff presennol i ennill sgiliau diwydiant gwerthfawr a phenodol wedi'u teilwra i'ch busnes chi yn ogystal â chael hyfforddiant allanol gan CAVC sy'n arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.
Pa ddiwydiant neu lwybr bynnag mae'r brentisiaeth yn ei ddilyn, mae tair elfen graidd:
CYMHWYSTER GALWEDIGAETHOL CENEDLAETHOL (NVQ)
Dyma elfen seiliedig ar gymhwysedd y Brentisiaeth ac mae wedi'i theilwra i gyd-fynd ag anghenion busnes drwy ddewis modiwlau priodol.
CYMHWYSTER SEILIEDIG AR WYBODAETH (CYMHWYSTER CYSYLLTIEDIG Â GALWEDIGAETH / TYSTYSGRIF DECHNEGOL)
Arholiad ar-lein yw hwn fel rheol yn profi eich gwybodaeth am bwnc penodol.
SGILIAU HANFODOL CYMRU
Cymhwyster unigol ychwanegol i wella sgiliau trosglwyddadwy ar draws cyfathrebu, defnydd o rifau a TGCh.
Cysylltiadau cyflym
Manteision i'ch busnes
Rydyn ni'n cefnogi pob maes yn eich busnes
Y sectorau rydyn ni'n gweithio ynddynt
-
Adeiladu
-
Peirianneg
-
Iechyd a Gofal Cymdeithasol
-
Gweithgynhyrchu
-
Moduro
-
Creadigol a TGCh
-
Arlwyo a Lletygarwch
-
Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol
-
Sector Cyhoeddus
-
Sector Trydydd Parti