Cwrdd â'r Tîm

Bydd ein harbenigwyr hyfforddi'n cwrdd â chi i ddeall eich busnes, eich amcanion gyda hyfforddiant ac i werthuso eich anghenion. Byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu cynllun hyfforddi sydd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer eich busnes, gan eich helpu chi i ddatrys heriau busnes a chefnogi twf yn y dyfodol.

Ein Tîm Datblygu Busnes

Rheolwr Atebion Dysgu a Datblygu

MaryAnn Hale

Mae MaryAnn yn arwain y tîm Cwricwlwm Busnes yn CCAF i ddarparu datrysiadau arloesol ar gyfer anghenion datblygu gweithlu corfforaethol, gan ddod o hyd i ganlyniadau llwyddiannus i gleientiaid. Yn ogystal, mae MaryAnn yn arwain y tîm ar ddylunio a darparu rhaglenni a mentrau datblygu masnachol o safon uchel sy'n cyd-fynd ag amcanion busnes cleient.

Rheolwr Datblygu Busnes

Leanne Waring

Leanne sy'n arwain ein Tîm Datblygu Busnes, gan ymgynghori'n uniongyrchol â chyflogwyr i ddarparu cyngor ac arweiniad arbenigol ar yr atebion hyfforddi cywir i ddiwallu anghenion dynamig a chynyddol eu diwydiant.

Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Chris Duffy

Ymgynghorydd datblygu busnes profiadol yn y Tîm Gwasanaethau Masnachol. Mae Chris yn gweithio'n ymgynghorol gyda sefydliadau o bob maint i adnabod anghenion hyfforddi ac mae'n sicrhau bod y datrysiadau a ddarperir gan y Coleg yn cyflawni effaith bositif. Mae gan Chris wybodaeth eang am y sectorau Lletygarwch a Diwydiannau Creadigol.

Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Nick Aiston

Fel rhan o'r Tîm Datblygu Busnes, mae Nick yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr, gan roi cyngor ac arweiniad ar atebion hyfforddi ar gyfer eu sefydliad. Mae Nick yn canolbwyntio ar gefnogi sefydliadau o fewn y sectorau Adeiladu, Peirianneg, Awyrofod a Modurol.

Ymgynghorydd Datblygu Busnes

Caroline Smart

Fel rhan o'r Tîm Datblygu Busnes, mae Caroline yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr, gan roi cyngor ac arweiniad ar atebion hyfforddi ar gyfer eu sefydliad. Mae Caroline yn canolbwyntio ar gefnogi BBaChau a sefydliadau o fewn y sectorau gwasanaethau Ariannol a Gofal.