P’un a ydych yn newydd i Microsoft Excel neu’n chwilio am gwrs gloywi, bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi’r cyfle ichi ddysgu’r technegau sylfaenol ar gyfer mewnbynnu, trefnu a rheoli data’n effeithiol!
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm.Cliciwch ar y cyd â’n Tiwtor Cwrs, cwblhewch weithgareddau ymarferol ac ar sail senario, a chymerwch olwg fanylach ar adnoddau a nodweddion Microsoft Excel a amlinellir isod:
Mewnbynnu a Threfnu Data
Tabiau dewislen
Celloedd; Rhesi; Colofnau; Tabiau; Lliw llenwi celloedd; Fformat celloedd
Pwyntyddion a handlenni llenwi
Testun; Bras; Italig; Tanlinellu; Lliw testun; Canol; Chwith a dde
Bar offer mynediad cyflym
Torri; copïo; pastio; teclyn torri; gwiriwr sillafu
Rheoli golygon; Arferol; Toriad tudalen; Paenau rhewi; Paenau hollti; Bar Dangos Fformiwla, Llinellau Grid a Phenawdau
Rheoli Data
Canfod a disodli
Cadw fel CSV/ Llyfr gwaith Excel
Cyfrifiadau a Fformiwlâu Sylfaenol Excel
BODMAS a defnyddio cromfachau
Fformadu rhifau; Lleoedd degol; Arian, Canrannau etc.
Cyfrifiadau cysylltiedig
Gweithrediadau Sylfaenol
Lleiafswm
Mwyafswm
Cymedrol
Cyfrif
Dewch â gliniadur eich hun neu cewch fenthyg un o’n rhai ni ar y diwrnod!
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £40.00
Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae'r cwrs hwn yn arwain yn uniongyrchol i’r cwrs Canolradd - Microsoft Excel, sy’n ehangu ac yn adeiladu ar y wybodaeth a roddwyd.