Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar-lein i Oedolion

L3 Lefel 3
4 Rhagfyr 2026 — 31 Ionawr 2027
Ar-lein
Mae'r cwrs yma ar gael mewn lleoliadau gwahannol ac ar ddyddiadau/lefelau gwahannol.

Ynghylch y cwrs hwn

Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion yn ffordd bwysig o gefnogi gweithwyr a chydweithwyr gyda’u llesiant meddyliol. Mae’r hyfforddiant hwn yn datblygu’r sgiliau i ganfod pryd mae pobl eraill yn profi iechyd meddwl gwael a gwybodaeth am sut i fynd ati i ddechrau sgwrs i roi cefnogaeth briodol. 

Byddwch yn dysgu fframwaith y cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a fydd yn rhoi’r hyder ichi gefnogi eraill ac a fydd yn meithrin eich ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd meddwl amrywiol y gall pobl eu profi. 

Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth am iechyd meddwl ac ennill yr adnoddau i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i eraill, boed yn y gweithle neu yn y gymuned gyda ffrindiau a theulu. 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Cyflwynir y cwrs hwn ar draws 2 sesiwn Gweminar 3 awr drwy Microsoft Teams.

Gweminar 1: Dydd Gwener 4ydd Rhagfyr, 9.30am – 12:30pm
Gweminar 2: Dydd Gwener 11eg Rhagfyr, 9.30am – 12:30pm

Modiwlau'r Cwrs:
Modiwl 1: Cyflwyniad i Iechyd Meddwl
Modiwl 2: Iselder
Modiwl 3: Pryder
Modiwl 4: Seicosis
Modiwl 5: Defnyddio Sylweddau

Rhaid i chi gwblhau rhai o'r modiwlau hyn cyn pob Gweminar neu ni fyddwch yn gallu ymuno.

Rhag-ddysgu ar gyfer Gweminar 1: Modiwlau 1, 2 a 3 (2-3 awr)

Gweminar 1: Dydd Gwener 4ydd Rhagfyr, 9.30am – 12:30pm
Adolygu modiwlau 1, 2 a 3
Rôl y Cymorthydd Cyntaf Iechyd Meddwl
Cymhwyso'r Cynllun Gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Gofal personol i'r Cymorthydd Cyntaf Iechyd Meddwl

*Ni fydd dysgwyr yn gallu cael mynediad at Fodiwlau 4 a 5 nes iddynt gwblhau Gweminar 1 gyda'r hyfforddwr.

Rhag-ddysgu ar gyfer Gweminar 2: Modiwlau 4 a 5 (2-3 awr)

Gweminar 2: Dydd Gwener 11eg Rhagfyr, 9.30am – 12:30pm
Adolygu modiwlau 4 a 5
Stigma a barn
Cymhwyso Cynllun Gweithredu MHFA

*Sylwch, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn yr hyfforddiant, argymhellir bod gan gyfranogwyr lefel briodol o lesiant cyn mynychu.

*Dim ond ar gyfer cyfranogwyr sy'n byw a/neu'n gweithio yng Nghymru y mae hyfforddiant MHFA Cymru wedi'i drwyddedu.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £165.00

Gofynion mynediad

Rydych chi'n gymwys ar gyfer y cwrs yma os ydych chi:

  • Yn 19 oed neu'n hŷn
  • Yn byw neu'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd
  • Yn gallu cael mynediad at Microsoft Teams drwy liniadur neu gyfrifiadur personol i ymuno
  • Yn gallu mynychu'r ddwy Weminar ac yn fodlon cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau trafodaethau grŵp
  • Yn fodlon cwblhau gwaith cyn pob Gweminar
  • Yn teimlo'n gyfforddus yn trafod Iechyd Meddwl gydag eraill

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

4 Rhagfyr 2026

Dyddiad gorffen

31 Ionawr 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Ar-lein
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSMHFA3P03
L3

Cymhwyster

eMental Health First Aid for Adults

Lleoliadau

Ar-lein
Ar-lein