Tystysgrif Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol

L5 Lefel 5
8 Medi 2026 — 30 Medi 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Datblygwch eich diwylliant mentora a hyfforddi yn eich tîm a chefnogwch eich sefydliad gyda’n Tystysgrif ILM Lefel 5 mewn Hyfforddi a Mentora!  

P’un a ydych yn awyddus i ddod yn hyfforddwr neu’n fentor, neu mae gennych eisoes gyfrifoldebau hyfforddi a mentora o fewn sefydliad, bydd y cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn ystyried sut all datblygu diwylliant hyfforddi wella cynhyrchiant sefydliadol ac ymddygiadau cadarnhaol yn y gweithle. 
Cewch ymarfer eich technegau hyfforddi a chymhwyso modelau o fewn amgylchedd cefnogol gyda chymorth ychwanegol gan eich tiwtor i annog ymarfer myfyriol a datblygiad personol o fewn y rôl hyfforddi a mentora. 


Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth! 

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich Dyfarniad Lefel 5 ILM, bydd angen i chi fynychu 5 sesiwn ddosbarth wyneb yn wyneb orfodol a sesiynau tiwtorial gyda’ch tiwtor ar y dyddiadau isod:    

Diwrnod 1: Dydd Iau 8 Medi 2026, 9.30-4pm  
Diwrnod 2: Dydd Iau 6 Hydref 2026, 9.30-4pm 
Diwrnod 3: Dydd Iau 3 Tachwedd 2026, 9.30-4pm  
Diwrnod 4: Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2026, 9.30-4pm  
Diwrnod 5: Dydd Llun 12 Ionawr 2026, 9.30-4pm 
Diwrnod 6: Dydd Mawrth 16 Chwefror 2026, 9.30-4pm 
Diwrnod 7: Dydd Mawrth 16 Chwefror 2026, 9.30-4pm  
 
Modiwlau Dan Sylw  

Uned 500: Deall y Sgiliau, yr Egwyddorion a’r Arferion Mentora a Hyfforddi Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol  

Uned 501: Cynnal Hyfforddiant a Mentora Effeithiol o fewn Cyd-destun Sefydliadol (18 awr yn ymarfer hyfforddi mewn sefydliad) 

Uned 503: Adolygu eich Gallu eich hun fel Hyfforddwr neu Fentor o fewn Cyd-destun Sefydliadol 

Dewisiadau Asesu 
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys 3 modiwl ac mae gan bob un aseiniad cynhwysfawr sy’n cynnwys; aseiniad yn seiliedig ar ddamcaniaeth, portffolio gwerth 18 awr o hyfforddi mewn sefydliad, ac aseiniad myfyriol. 
Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.   
Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial. 
Ar ôl i chi basio’r ddau fodiwl, byddwch yn derbyn eich Tystysgrif Dyfarniad Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol, ynghyd â bathodyn digidol i’w rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein. 

Y broses ymgeisio 
Ar ôl i chi ddefnyddio’r botwm ‘Ymgeisio Nawr’ ar frig y dudalen i gyflwyno eich cais, bydd aelod o’n tîm yn anfon ein holiadur cymhwysedd i gadarnhau mai dyma’r cymhwyster cywir ar gyfer eich swydd bresennol a’ch nodau gyrfa drwy edrych ar ofynion ILM.  

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £1,750.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys am y cwrs hwn os ydych yn:

• 19 oed neu hŷn • ddim mewn addysg llawn amser

• yn gallu mynychu’r cwrs ar bob dyddiad

• yn meddu ar A* - C mewn TGAU Saesneg neu gyfwerth

• yn awyddus i ddod yn hyfforddwr neu’n fentor, neu mae gennych eisoes gyfrifoldebau mentora a hyfforddi o fewn sefydliad

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

8 Medi 2026

Dyddiad gorffen

30 Medi 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSILM5ECM
L5

Cymhwyster

ILM Level 5 Certificate in Effective Coaching and Mentoring

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE