Mae Coleg Caerdydd a'r Fro (CCAF) wedi prynu adeilad nodedig yng nghanol y ddinas, gan ehangu ei bresenoldeb yn y brifddinas.
Roedd yr adeilad mawr a hynod adnabyddus, gyferbyn â chefn Gorsaf Drenau Canol Caerdydd, yn gartref i Grŵp Bancio Lloyds Ccc am fwy na degawd. Dim ond munud neu ddau ar droed o brif adeilad blaenllaw presennol Campws Canol y Ddinas y Coleg a agorodd yn 2015, mae'r pryniant newydd yn darparu buddsoddiad sylweddol i wella cyfleusterau CCAF yng nghanol y ddinas a chyfle cynaliadwy ar gyfer twf yn y rhanbarth.
Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro yw'r grŵp coleg mwyaf yng Nghymru bellach a'r trydydd mwyaf yn y DU. Mae'r pryniant yn cynnig cyfle unigryw i'r Coleg adeiladu ar ei ddarpariaeth o fewn prifddinas Cymru a'i hehangu, gan ddatblygu'r ardal ymhellach fel lleoliad gwych ar gyfer dysgu. Mae'r lleoliad canolog amlwg yn cefnogi proffil hyn a hygyrchedd dysgu i bobl ifanc, oedolion a chyflogwyr ledled y Brifddinas-Ranbarth, gyda Gorsaf Drenau Canol Caerdydd a Chyfnewidfa Bysiau Caerdydd gamau i ffwrdd yn unig.
Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer datblygu'r safle 13,000 metr sgwâr yn dechrau nawr, gyda'r nod o ddarparu cyfleusterau addysgu o ansawdd uchel, sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, ar draws sawl sector i gefnogi datblygiad economaidd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd, ochr yn ochr â manteision carbon sero net cadarn. Bydd y datblygiad yn cael ei gyflawni drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, yn amodol ar gymeradwyo cyllid.
Ar hyn o bryd mae Campws Canol y Ddinas CCAF yn cynnwys y prif adeilad blaenllaw, ynghyd â chyfres o gyfleusterau eraill ar hyd Heol Dumballs, gan gynnwys canolfannau hyfforddi pwrpasol ar gyfer y diwydiannau Moduro, Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu; cyfleuster chwaraeon cymunedol ym Mharc y Gamlas ynghyd â chanolfan fawr yn Un Parêd y Gamlas, ac Academi'r Celfyddydau ar Stryd Masnach gerllaw. Mae sicrhau'r adeilad nodedig yma’n cefnogi cyfle cynaliadwy a chost-effeithiol ar gyfer dyfodol y Coleg yn y brifddinas.
Mae'r pryniant yma’n cyd-fynd â buddsoddiad o £119m gan CCAF mewn campysau newydd sbon, cwbl fodern ym Mro Morganwg, gyda’r ddau i fod i agor ym mis Medi 2027. Mae hyn yn cynnwys Campws Glannau'r Barri, coleg sydd â’i ffocws ar y gymuned yng nghanol y dref, a Chanolfan Dechnoleg Uwch arloesol ger Maes Awyr Caerdydd, sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion sgiliau cyflogwyr, prentisiaid a'r rhai sy'n gweithio mewn technolegau uwch ac yn cefnogi pontio Cymru i Sero Net.
Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Coleg Caerdydd a'r Fro, Mike James: “Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi sicrhau'r adeilad nodedig yma. Dros y degawd diwethaf mae'r ardal yma wedi profi'n lleoliad poblogaidd, bywiog a hygyrch i'r gymuned a chyflogwyr ar draws ein rhanbarth ni.
“Mae lleoliad gwych a graddfa'r safle yma’n darparu potensial anhygoel i'n cefnogi ni ymhellach i wella ansawdd a chynaliadwyedd ein stad ni mewn ffordd gost-effeithiol, a thyfu'r ddarpariaeth addysgu a dysgu o ansawdd uchel rydyn ni’n ei chynnig.”