Mae dysgwyr Coleg Caerdydd a'r Fro yn dathlu buddugoliaethau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK eleni.
Enillodd Kaleal Dababi a Kara Evens aur yn y gystadleuaeth Cyfryngau Creadigol ac enillodd Kodi Fryer-Saxby efydd yn y gystadleuaeth Gwasanaeth Bwyty mewn Sgiliau Sylfaenol - medalau Sgiliau Sylfaenol cyntaf erioed y coleg. Mae Sgiliau Sylfaenol yn gystadleuaeth sgiliau genedlaethol, gynhwysol i bobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n profi sgiliau galwedigaethol, gweithle ac annibyniaeth craidd.
Yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK, gwelodd y Coleg hefyd y myfyrwyr Dylan Morgan yn ennill efydd mewn Atgyweirio Cyrff Cerbydau, a Titi Kaewnok a Kornchanut Uttamoon yn cael canmoliaeth uchel mewn Colur SFX a Seiberddiogelwch yn y drefn honno.
Dyma'r ail flwyddyn i golegau a phrifysgolion ledled Cymru gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, lle cynhaliodd CCAF 20 o gystadlaethau mewn pynciau oedd yn amrywio o Gyrff Cerbydau i'r Celfyddydau Coginio a Cholur SFX ar gyfer y byd Ffilm a Theledu, yn ogystal â phob un o'r wyth Rownd Derfynol Sgiliau Sylfaenol mewn ystod eang o feysydd. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Llundain y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Pennaeth Coleg Caerdydd a’r Fro, Sharon James-Evans: "Llongyfarchiadau i bob un o'n dysgwyr a enillodd fedalau a chanmoliaeth - mae wir yn gyflawniad anhygoel ac mae'n eich rhoi chi ymhlith y goreuon yn y DU yn eich maes!
"Yn CCAF, rydym yn credu'n gryf mewn cystadlaethau sgiliau a'r rôl hanfodol maen nhw'n ei chwarae, a braint oedd cael bod yn bennaf gyfrifol am gynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK am yr eildro. Mae cyflawniadau ein dysgwyr yn dyst i'w dawn yn ogystal â gwaith caled ac ymroddiad staff y Coleg, sydd wedi gweithio'n ddiflino i'w cefnogi i gyrraedd y lefel hon.”