Mae ein cwrs Tystysgrif AAT mewn Cyfrifeg yn berffaith ar gyfer yr unigolion hynny sy’n awyddus i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gyfrifeg. Gan astudio yn ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau pwrpasol y coleg, mae’r cymhwyster hwn yn ymdrin ag ystod o sgiliau cyfrifeg a chyllid sylfaenol mewn pum uned orfodol (240 o oriau dysgu dan arweiniad), a’i bwrpas yw sicrhau bod myfyrwyr wedi’u paratoi’n dda i symud ymlaen i yrfa ym maes busnes, cyllid neu gyfrifeg proffesiynol, neu i addysg bellach.
Mae pob uned o yn y cymhwyster hwn yn hanfodol - asesir pedair uned yn unigol yn ystod yr asesiadau diwedd uned. Mae’r cymhwyster hefyd yn cynnwys asesiad synoptig, tua diwedd y cwrs, sy’n defnyddio ac yn asesu gwybodaeth a dealltwriaeth o bob rhan o'r maes:
Mae hwn yn gwrs galwedigaethol ac ymarferol a byddwch yn dysgu sgiliau hanfodol sy’n berthnasol i amgylchedd cyfrifeg. Darperir darlithoedd ar gyfer pob uned, a chynigir cymorth tiwtorial hefyd. I astudio cwrs AAT, mae angen i chi ymuno â'r AAT fel aelod myfyriwr, yn ogystal â chofrestru yn y coleg. Mae'r AAT yn cynnig ystod o fuddion i aelodau myfyrwyr, gan gynnwys cefnogaeth, cymorth i ddod o hyd i swydd a phrisiau gostyngol arbennig.
Rhaid i ddysgwyr gwblhau pedair asesiad uned ac un asesiad synoptig yn llwyddiannus i gyflawni’r cymhwyster hwn. Cyfran y cymhwyster hwn a asesir drwy asesiad allanol yw 100%.
Mae’r holl asesiadau yn y cymhwyster hwn:
Ni ddyfernir graddau yn unigol i asesiadau uned ac asesiadau synoptig, ond mae’r marciau a enillir ym mhob asesiad yn cyfrannu at radd gyffredinol y myfyriwr ar gyfer y cymhwyster.
Ffi Arholiad : £275.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £785.00
4 TGAU gradd A*- C neu L2 ESOL neu IELTS 6.5. Bydd angen i chi fynychu cyfweliad ac ymgymryd ag asesiad sgiliau. Bydd dysgwyr aeddfed yn cael asesiad Iaith Saesneg a Mathemateg.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Pan ddes i'n ôl i addysg roeddwn i'n gwybod mai dyma'r lle i fynd. Mae Moodle yn wych ac mae llawer o ddeunydd arno, mae tiwtoriaid yn ymateb yn gyflym i unrhyw gwestiynau sydd gennym.