Partneriaethau ac Ymgysylltu

Rydyn ni'n ffurfio partneriaeth ac yn gweithio gyda sefydliadau i greu dull arloesol o ddysgu, gan helpu i rymuso'r gweithlu, datrys heriau busnes a chefnogi twf busnes yn y dyfodol.

Ysbrydoledig. Cynhwysol. Dylanwadol.

Mae’r coleg yn rhoi pwyslais cryf ar y defnydd o Wybodaeth am y Farchnad Lafur (LMI) wrth gynllunio'r cwricwlwm.
Rydym yn defnyddio LMI i arwain datblygiad ein cyrsiau ac i sicrhau bod ein darpariaeth yn bodloni anghenion unigolion, cyflogwyr ac economi Cymru. Dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, mae CCAF wedi gwneud cynnydd sylweddol i sicrhau bod LMI:

  • Wedi’i hymgorffori yn y broses cynllunio cwricwlwm
  • Yn cael ei defnyddio gan staff i lywio darpariaeth
  • Yn ymatebol i flaenoriaethau Prifddinas-ranbarth Caerdydd (CCR) a chyflogwyr, gan greu cyfleoedd i ddysgwyr

Mae LMI yn ganolog i gam cyntaf cynllunio cwricwlwm ac yn sail i gynhyrchu cynllun cynhwysfawr sy’n adlewyrchu anghenion rhanbarthol. Mae’r broses Cynllunio Busnes a Chwricwlwm yn rhoi cyfrifoldeb clir i Gyfarwyddwyr Cyfadran i sicrhau defnydd effeithiol o LMI, gyda chefnogaeth tîm Busnes CCAF. Mae'r tîm yn cynhyrchu adroddiad cynllunio cwricwlwm manwl bob blwyddyn. Mae hyn yn cyfuno tystiolaeth feintiol ac ansoddol gyda mewnwelediad gan Lightcast, rhagolygon y farchnad lafur, blaenoriaethau CCR, datblygiadau rhanbarthol ehangach ac argymhellion gan y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol.

Mae ein dull o gynllunio cwricwlwm yn sicrhau bod CCAF yn ymateb i anghenion rhanbarthol a chyflogwyr ac yn darparu cwrciwlwm sy’n bodloni’r angen hwn, ac yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu i gyflogaeth neu ddysgu pellach.

Mae datblygiad dysgwyr i ddysgu pellach, Prentisiaethau, Addysg Uwch neu Gyflogaeth yn dilyn y dull hwn yn parhau i fod yn rhagorol, gyda chyfrannau uchel o ddysgwyr yn symud ymlaen i gyrchfannau cadarnhaol yn gyson.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni

Ein Straeon Llwyddiant

Waiting on Translation

Wales and West Utilities

Darparwr gwasanaeth rheoledig ar gyfer yr holl anghenion hyfforddi

Dow

Mae gennym leoedd prentisiaeth ar gael o hyd gyda Dow

Persimmon

Sut y gwnaethom agor Academi Hyfforddi gyda Perismmon

BBC

Ein Rhaglen Brentisiaeth ddiweddaraf

Deloitte

Cydweithio rhwng y sector preifat a'r sector addysg

Hafod

Darpariaeth hyfforddiant ar draws y sector tai, cymorth a gofal

Mae'r cyflogwyr rydym yn gweithio gyda nhw'n cynnwys

HE Grad

Newyddion

CCAF yn dathlu cyflawniadau ei ddysgwyr Addysg Uwch mewn seremoni raddio arbennig

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi cynnal seremoni raddio arbennig i ddathlu cyflawniadau ei fyfyrwyr Addysg Uwch.
6 Hyd 2026

Newyddion

Prifysgol Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro yn llofnodi cytundeb nodedig i ddatblygu talent yn niwydiannau’r dyfodol  

Mae Prifysgol Caerdydd a Choleg Caerdydd a'r Fro wedi cyhoeddi eu bod wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan nodi cam sylweddol ymlaen yn eu huchelgais gyffredin i ddatblygu Academi Technoleg Ddofn ar gyfer De Cymru.  
24 Meh 2026

Newyddion

Coleg Caerdydd a'r Fro yn sicrhau adeilad nodedig yng nghanol y ddinas

Mae Coleg Caerdydd a'r Fro (CCAF) wedi prynu adeilad nodedig yng nghanol y ddinas, gan ehangu ei bresenoldeb yn y brifddinas.
19 Mai 2026