Mae'r cwrs AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) lefel uwch hwn yn gymhwyster cyfrifeg lefel ganolig, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n awyddus i ddatblygu'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes am gyfrifeg.
Darperir y cwrs hyblyg hwn mewn partneriaeth gyda Mindful Education, ac mae’n cyfuno dysgu ar-lein gyda gwersi wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth, y cyfeirir ato fel Ar-lein ac Ar y Campws.
Mae’r cwrs Lefel 3 yma wedi’i ariannu’n llawn drwy’r Gronfa Sgiliau Oedolion. Fel arall, gallwch wneud cais am Fenthyciad Dysgwr Uwch i dalu cost astudio ar y cwrs hwn. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth.
Noder: Mae’r cwrs yn dechrau ar 15 Medi 2026. Mae angen mynychu’r ystafell ddosbarth yn wythnosol, bob dydd Mawrth (17:30).
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys ystod o dasgau cyfrifeg cymhleth. Byddwch yn dysgu ac yn meistroli prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cyfrifeg, paratoi datganiadau ariannol, cyfrifeg rheoli, prosesau treth ac ymwybyddaeth o fusnes.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, dyfernir Tystysgrif Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg i chi. Mae'r cymhwyster AAT hwn, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig sydd yn aml yn ofynnol gan gyflogwyr.
Unedau astudio: Mae’r cwrs Lefel 3 yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys;
Dull astudio - Ar-lein ac Ar y Campws. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Mindful Education i gyflwyno'r cwrs hwn drwy gyfrwng ein model hyblyg Ar-lein ac Ar y Campws.
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo sydd wedi ennill gwobrau. Mae'r rhain ar gael ar alw, a gallwch eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur - sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych am astudio. Mae’r gwersi’n cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau yn fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawr lwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i gyfoethogi'r profiad dysgu ymhellach.
Dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 5-6 awr yr wythnos yn astudio'n annibynnol ar-lein.
Ar y campws, byddwch yn elwa o gael dosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor coleg - heb orfod ymrwymo i fynychu sawl noswaith bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu’r hyn rydych wedi'i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein a bydd ar gael i gynnig arweiniad ynghylch cynnydd ac asesu. Bydd trafod yn rheolaidd gyda chyd-fyfyrwyr yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol a hefyd yn darparu'r gefnogaeth a'r cymhelliant ychwanegol a geir wrth fod yn rhan o grŵp.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei asesu drwy arholiadau ar gyfrifiadur ar gyfer pob uned.
Ffi Arholiad : £305.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £1,050.00
Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £262.50
Dylai ymgeiswyr fod wedi cyflawni Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg neu gymhwyster Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 4 AAT ar gyfer Technegwyr Cyfrifyddu Proffesiynol.
Cyfleoedd gyrfa
Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu hennill drwy'r cymhwyster hwn yn eich cymhwyso ar gyfer rolau fel Swyddog Cyllid, Cynorthwyydd Cyfrifydd a Chadwlyfrwr. Byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer statws Cadwlyfrwr AAT (AATQB), gan roi'r opsiwn i chi weithio fel cadwlyfrwr llawrydd.