Mae'r cwrs AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn yn gymhwyster cyfrifeg lefel mynediad, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy'n chwilio am gyflwyniad i egwyddorion a sgiliau sylfaenol cadw cyfrifon.
Cyflwynir y cwrs cyfuno dysgu ar-lein â gwersi wyneb yn wyneb yn y dosbarth, y cyfeirir atynt fel Ar-lein ac Ar y Campws.
Mae'r cwrs Lefel 2 hwn wedi'i ariannu'n rhannol, felly mae'r gost i fyfyrwyr wedi'i ostwng.
Pan fyddwch wedi cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae’n bosib y byddech yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi’i ariannu’n llawn. Gweler y wybodaeth ar gynnydd isod.
Noder: Mae’r cwrs yn dechrau ar 14 Medi 2026. Mae angen mynychu’r dosbarth bob bythefnos, bob yn ail ddydd Llun (17:00).
Bydd y cymhwyster hwn yn eich paratoi ar gyfer rolau cadw cyfrifon lefel iau a lefel mynediad. Mae’n darparu sail gadarn mewn cyfrifeg sy’n cwmpasu meysydd megis cadw cyfrifon cofnod dwbl, egwyddorion costio sylfaenol ac egwyddorion meddalwedd cyfrifyddu.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, dyfernir Tystysgrif Sylfaen Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg. Mae'r cymhwyster AAT (Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu) hwn, a gydnabyddir yn rhyngwladol, yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifeg neu sy'n awyddus i ddilyn gyrfa yn y maes i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r ardystiad hollbwysig sydd yn aml yn ofynnol gan gyflogwyr.
Unedau astudio: Mae’r cwrs Lefel 2 yn cwmpasu ystod o feysydd allweddol, gan gynnwys:
Ffi Arholiad : £305.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £825.00
Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £0.00
Wedi i chi gwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i Gymwysterau Cyfrifeg AAT lefel uwch (Lefel 3 ac yna ymlaen i Lefel 4). Mae’n bosib y byddech yn gymwys ar gyfer cwrs Lefel 3 wedi’i ariannu’n llawn drwy’r Gronfa Sgiliau Oedolion. Fel arall, gallwch wneud cais am Fenthyciad Dysgwr Uwch i dalu cost eich astudiaethau Lefel 3.
Gofynnwch i aelod o staff y coleg am fwy o wybodaeth.
Bydd y sgiliau a’r wybodaeth y byddwch yn eu hennill drwy gydol y cymhwyster hwn yn eich gwneud yn gymwys ar gyfer rolau sy’n cynnwys, Cynorthwy-ydd Cyfrifon, Cynorthwy-ydd Cyllid, Cynorthwy-ydd Rheoli Credyd neu Glerc Llyfr Prynu