Mae'r cwrs lefel uwch hwn gan yr AAT (Association of Accounting Technicians) yn gymhwyster cyfrifeg lefel ganolradd, sy'n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sydd am ddatblygu eu gwybodaeth bresennol am gyfrifeg.
Mae'r cwrs hyblyg hwn yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Mindful Education ac yn cyfuno dysgu ar-lein â gwersi wyneb yn wyneb yn yr ystafell ddosbarth – dull a elwir yn 'Ar-lein ac ar y Campws'.
Mae'r cwrs Lefel 3 hwn yn cael ei ariannu'n llawn ar gyfer dysgwyr cymwys drwy'r Gronfa Sgiliau Oedolion (Adult Skills Fund). Fel arall, gallwch wneud cais am Fbenthyciad Dysgwr Lefel Uwch (Advanced Learner Loan) i dalu cost astudio'r cwrs hwn. Gofynnwch i aelod o staff y coleg am ragor o wybodaeth.
Sylwch: Mae'r cwrs yn dechrau ar 7 Hydref 2026. Efallai y bydd dyddiadau cychwyn ychwanegol ar gael. Cynhelir sesiynau yn yr ystafell ddosbarth yn wythnosol, bob dydd Mercher (10:00).
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Mae'r cymhwyster hwn yn ymdrin ag ystod o dasgau cadw cyfrifon cymhleth. Byddwch yn dysgu ac yn meistroli prosesau ariannol, gan gynnwys egwyddorion a chysyniadau cadw cyfrifon.
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Tystysgrif Uwch AAT mewn Cadw Cyfrifon. Mae'r cymhwyster AAT hwn, sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol, yn galluogi'r rhai sy'n gweithio ym maes cyfrifyddu, neu'r rhai sydd am ddilyn gyrfa ym maes cyfrifyddu, i ennill gwybodaeth, profiad ymarferol a'r dystysgrif hollbwysig y mae cyflogwyr yn aml yn chwilio amdani.
Unedau astudio
Mae'r cwrs Lefel 3 hwn yn ymdrin â:
Cyfrifyddu ariannol: paratoi datganiadau ariannol
Prosesau treth ar gyfer busnesau
Dull astudio – Ar-lein ac ar y Campws
Rydym wedi partneru â Mindful Education i ddarparu'r cwrs hwn drwy ein model hyblyg sy'n cyfuno astudio ar-lein ac ar y campws.
Ar-lein, byddwch yn astudio gwersi fideo arobryn sydd ar gael ar alw, a gellir eu gwylio ar eich ffôn, tabled neu gyfrifiadur – sy'n golygu y gallwch ddewis sut, pryd a ble rydych chi am astudio. Mae'r gwersi'n cynnwys animeiddiadau a graffeg symudol i ddod â chysyniadau'n fyw. Mae cwestiynau ymarfer, deunyddiau gwersi y gellir eu lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol yn helpu i wella'r profiad dysgu ymhellach.
Dylai dysgwyr ddisgwyl treulio tua 5-6 awr yn astudio'n annibynnol ar-lein bob wythnos.
Ar y campws, byddwch yn elwa ar ddosbarthiadau rheolaidd gyda thiwtor y coleg – heb orfod ymrwymo i fynychu nifer o nosweithiau bob wythnos. Bydd eich tiwtor yn adolygu'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn ystod eich gwersi ar-lein ac ar gael i roi arweiniad ar gynnydd ac asesu. Bydd trafodaethau rheolaidd gyda chyd-ddisgyblion yn helpu i atgyfnerthu pwyntiau allweddol, gan ddarparu'r gefnogaeth a'r cymhelliant ychwanegol sy'n deillio o fod yn rhan o grŵp hefyd.
Sut caf fy asesu?
Caiff y cwrs hwn ei asesu drwy arholiadau ar gyfrifiadur ar gyfer pob uned.
Ffi Arholiad : £142.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £370.00
Ffi gyda gostyngiad (Bwrsari): £185.00
Cyfweliad llwyddiannus a lefelau da o lythrennedd a rhifedd. Mae ffi aelodaeth AAT o tua £73 y mae angen ei thalu'n uniongyrchol i AAT.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Gall myfyrwyr sy'n cwblhau Tystysgrif AAT Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon fod eisiau bwrw ymlaen i gwblhau Diploma Uwch AAT mewn Cyfrifyddiaeth yn llawn. Os byddwch yn dewis parhau â'ch astudiaethau yn y modd hwn, bydd eich cyflawniadau yn y cymhwyster Cadw Cyfrifon yn cael eu trosglwyddo i'r cymhwyster Cyfrifyddiaeth hirach.
Os byddwch yn cwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, gallwch wneud cais am aelodaeth cyswllt AAT ar gyfer cadw cyfrifon (AATQB).
Cyfleoedd gyrfa
Bydd y sgiliau a'r wybodaeth y byddwch yn eu hennill drwy gydol y cymhwyster hwn yn eich cymhwyso ar gyfer rolau gan gynnwys Swyddog Cyllid, Cynorthwyydd Cyfrifydd a Chadwwr Cyfrifon. Byddwch hefyd yn gymwys ar gyfer statws Cadwwr Cyfrifon AAT (AATQB), sy'n rhoi'r opsiwn i chi weithio fel cadwwr cyfrifon llawrydd.