Mae’r Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 mewn Ymarfer Pobl yma yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr pobl cyfredol a rhai sydd ag uchelgais i fod yn ymarferwyr pobl.
Mae ein carfan ar-lein newydd yn galluogi i chi ddysgu mewn ffordd hyblyg sy’n gallu cyd-fynd gyda’ch ymrwymiadau personol!
Astudiwch eich Lefel 3 drwy blatfform dysgu ar-lein Mindful Education sy’n cynnwys tiwtorialau byw a mynediad dethol at fideos, cwestiynau ymarfer, deunydd y gellir ei lawrlwytho ac astudiaethau achos rhyngweithiol sydd wedi’u cynllunio er mwyn eich helpu chi i adeiladu dealltwriaeth fwy trylwyr o ddeunyddiau CIPD Lefel 3.
Ochr yn ochr â hyn, byddwch yn mynychu tiwtorialau byw rheolaidd gyda darlithydd CIPD CCAF a fydd yn hwyluso trafodaethau grŵp er mwyn gwella eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o bynciau AD er mwyn atgyfnerthu’r dysgu.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Mae’r cwrs hwn yn cael ei ddarparu ar-lein drwy gyfrwng cymysgedd o Hunan-astudio a thiwtorialau byw o 2 awr bob yn ail ddydd Iau.
Mae’r cymhwyster ei hun wedi’i adeiladu o amgylch y Map Proffesiwn CIPD sy’n gosod y meincnod rhyngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol pobl, gan gyfuno cyfres o werthoedd craidd, gwybodaeth ac ymddygiadau sy’n arwain gweithwyr proffesiynol pobl wrth iddynt wneud penderfyniadau a gweithredu.
Cynnwys ac Asesiad:
Er mwyn sicrhau’r cymhwyster hwn, bydd gofyn i chi ysgrifennu a chyflwyno aseiniadau uned i derfynau amser. Mae 4 uned i gyd:
3C001: Busnes, diwylliant a newid yn eu cyd-destun
3C002: Egwyddorion dadansoddi
3C003: Ymddygiadau craidd ar gyfer gweithwyr proffesiynol pobl
3C004: Hanfodion Ymarfer Pobl
Aelodaeth CIPD: Bydd pob myfyriwr angen Aelodaeth CIPD gweithredol drwy gydol cyfnod eu cymhwyster. Nid yw CCAF yn talu costau Aelodaeth gan mai aelodaeth bersonol y mae gennych chi’r cyfle i’w gael wedi i chi gymhwyso ydynt. Byddwn yn eich gwahodd chi i gofrestru eich Aelodaeth wrth i chi gofrestru.
Ffi Arholiad : £269.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £1,400.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae cwblhau Tystysgrif Sylfaen L3 mewn Ymarfer Pobl yn eich darparu gydag arweiniad i mewn i amrywiol rolau swyddi AD. Mae nifer o ddysgwyr yn mynd ymlaen i astudio Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl L5 yn dilyn hyn.