Camwch i Addysgu gyda’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant
Y Dyfarniad Lefel 3 mewn Addysg a Hyfforddiant yw eich cam cyntaf i’r byd addysgu a hyfforddi oedolion - cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol ac sydd wedi ei ddylunio i ddechrau neu ddatblygu eich gyrfa mewn addysg ar draws amrywiaeth o sectorau.
P’un a ydych yn breuddwydio am ddarparu hyfforddiant yn y gweithle, arwain mewn addysg i oedolion, neu gamu i’r ystafell ddosbarth am y tro cyntaf, bydd y cwrs hwn yn eich darparu â’r sgiliau a’r hyder i ennyn diddordeb, ysbrydoli a chael effaith wirioneddol.
Cliciwch ar yr isdeitl isod am ragor o wybodaeth!
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm ar y dyddiadau isod:
Diwrnod 1: Dydd Mercher 9fed Gorffennaf
Diwrnod 2: Dydd Iau 10fed Gorffennaf
Diwrnod 3: Dydd Mercher 30ain Gorffennaf
Diwrnod 4: Dydd Iau 31ain Gorffennaf
Pam Dewis y Cwrs Hwn?
Modiwlau
Asesu
I ennill y cymhwyster hwn, bydd angen ichi fynychu’r sesiynau ar bob dyddiad, cyflwyno asesiad ysgrifenedig erbyn terfyn amser penodol a chyflwyno gwers addysgu fer.
Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, Microsoft TEAMS a ffôn. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.
Ffi Arholiad : £85.00
Ffi Cofrestru: £40.00
Ffi Cwrs: £279.00
Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:
Ffi Arholiad : £85.00
Ffi Cofrestru: £40.00
Ffi Cwrs: £279.00
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.