Tystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Gweithredol

L7 Lefel 7
19 Hydref 2026 — 30 Tachwedd 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Mae'r Dystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol yn gymhwyster sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol ac sydd wedi’i dylunio ar gyfer uwch-reolwyr neu bobl broffesiynol mewn swyddi Adnoddau Dynol/Datblygiad Sefydliadol sydd eisiau datblygu eu harbenigedd a chredadwyaeth ym meysydd hyfforddi a mentora ar lefel sefydliadol.

Diddordeb? Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Er mwyn ennill eich cymhwyster Tystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol, bydd gofyn i chi fynychu 8 dosbarth wyneb yn wyneb hanfodol ar safle ein campws Canol y Ddinas ar y dyddiadau canlynol: 

Diwrnod 1: Dydd Llun 19eg Hydref 2026

Diwrnod 2: Dydd Llun 16eg Tachwedd 2026

Diwrnod 3: Dydd Mawrth 15fed Rhagfyr 2026

Diwrnod 4: Dydd Llun 18fed Ionawr 2027

Diwrnod 5: Dydd Llun 22ain Chwefror 2027

Diwrnod 6: Dydd Llun 15fed Mawrth 2027

Diwrnod 7: Dydd Llun 12fed Ebrill 2027

Diwrnod 8: Dydd Llun 24ain Mai 2027


Unedau a gynhwysir o fewn y cymhwyster hwn:

  • Uned 700: Deall Cyd-destun Hyfforddiant a Mentora mewn Amgylchedd Busnes Strategol

  • Uned 701: Hyfforddi neu Fentora ar Lefel Uwch a Strategol

  • Uned 703: Myfyrio ar Eich Gallu Eich Hun i Berfformio’n Effeithiol fel Hyfforddwr neu Fentor yn Ymarfer ar Lefel Uwch


Dewisiadau Asesu

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys 3 modiwl ac mae gan bob un aseiniad cynhwysfawr sy’n cynnwys; aseiniad yn seiliedig ar ddamcaniaeth, portffolio gwerth 20 awr o hyfforddi mewn sefydliad, ac aseiniad myfyriol.


Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.  

Byddwch yn cael cymorth llawn drwy gydol y cwrs, gydag arweiniad gan eich tiwtor ILM dynodedig dros e-bost, Microsoft TEAMS, ffôn ac yn ystod diwrnodau eich tiwtorial.

Ar ôl i chi lwyddo yn y ddau fodiwl, byddwch yn derbyn eich Tystysgrif ILM Lefel 7 mewn Hyfforddi a Mentora Swyddogion Gweithredol, ynghyd â bathodyn digidol i’w rannu a dathlu eich cyflawniad ar-lein.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £2,190.00

Gofynion mynediad

I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rydych chi: Yn 19 oed neu'n hŷn Yn gallu mynychu pob gweithdy ar y safle Mewn cyflogaeth mewn rôl Uwch Reoli neu Broffesiynol AD/OD (oherwydd natur fyfyriol aseiniadau'r cymhwyster). Llwythwch i fyny Ddatganiad Personol o leiaf 500 gair wrth wneud cais i amlinellu eich diddordeb mewn cael y cymhwyster hwn Llwythwch i fyny dystiolaeth o'ch cymhwyster uchaf hyd yn hyn e.e. TGAU neu Dystysgrif Gradd Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol, ac efallai y gofynnir i chi ddangos tystiolaeth o'ch statws cyflogaeth!

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

19 Hydref 2026

Dyddiad gorffen

30 Tachwedd 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSILM7CM
L7

Cymhwyster

ILM Level 7 Certificate in Executive Coaching and Mentoring

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE