Diploma Cyswllt CIPD mewn Dysgu a Datblygu Sefydliadol

L5 Lefel 5
Rhan Amser
18 Medi 2025 — 18 Mawrth 2027
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac ar gyfer unigolion sy’n mwynhau helpu gweithwyr i wireddu eu potensial. 

Byddwch yn ehangu eich gwybodaeth am Ddysgu a Datblygu ymhellach gyda chyfuniad o unedau craidd a meysydd arbenigol.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Yn cynnwys 7 uned graidd sy’n cyd-fynd â’r wybodaeth graidd a safonau ymddygiad y Map Proffesiwn CIPD ar Lefel Gyswllt.

  • Perfformiad a diwylliant sefydliadol yn ymarferol
  • Cefnogi dysgu hunangyfeiriedig a chymdeithasol
  • Ymddygiad Proffesiynol a Gwerthfawrogi Pobl
  • Dylunio dysgu a datblygu i greu gwerth
  • Ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth
  • Hwyluso dysgu wedi’i bersonoli sy’n canolbwyntio ar berfformiad
  • Cyfraith Cyflogaeth Arbenigol

Addysgu ac asesu

Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu drwy ddysgu wyneb yn wyneb, yn y dosbarth, bob wythnos. 

I ennill y cymhwyster hwn, rhaid cyflwyno aseiniadau ar gyfer pob uned.

Ffi'r cwrs fesul blwyddyn

Ffi Arholiad : £154.00

Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00

Ffi Cwrs: £2,506.00

Gofynion mynediad

Rhaid ichi:

• fod yn gweithio yn y maes AD neu mewn rôl sy’n gysylltiedig ag AD neu rhaid ichi feddu ar brofiad o weithio mewn rôl sy’n gysylltiedig ag AD

• gallu cyflwyno tystiolaeth o gymwysterau perthnasol e.e. cymwysterau TGAU, CIPD Lefel 3 neu dystysgrifau Gradd

Ar ôl ymgeisio, byddwch yn cael Holiadur Datganiad Personol i’w lenwi a byddwch yn ei drafod yn nes ymlaen mewn cyfweliad rhithwir gyda Thiwtor y Cwrs, a fydd yn asesu pa mor addas ydych ar gyfer y cymhwyster CIPD hwn trwy ddefnyddio’r canllawiau CIPD. Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig i gofrestru. Ar ôl ichi gofrestru, bydd CAVC yn anfon dolen atoch i drefnu eich aelodaeth CIPD (os nad oes gennych un yn barod) – mae hyn yn hanfodol ar gyfer cwblhau unrhyw gymhwyster CIPD. Sylwer: ni fydd costau’r cwrs yn talu am unrhyw Aelodaeth CIPD, gan mai aelodaeth bersonol fydd hi.

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

18 Medi 2025

Dyddiad gorffen

18 Mawrth 2027

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Rhan Amser

6 awr yr wythnos

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion di-waith neu oedolion sy'n derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSCIPD5LD
L5

Cymhwyster

CIPD Associate Diploma in Organisational Learning and Development

Mwy...

Fideos

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Yn cynnwys 7 uned Graidd sy’n cyd-fynd â’r wybodaeth graidd a safonau ymddygiad Map Proffesiwn y CIPD ar Lefel Gyswllt:

1. Perfformiad a diwylliant sefydliadol yn ymarferol 
2. Ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth  
3. Ymddygiad proffesiynol a gwerthfawrogi pobl  
4. Cyfraith cyflogaeth arbenigol  
5. Cefnogi dysgu hunangyfeiriedig a chymdeithasol 
6. Dylunio dysgu a datblygu i greu gwerth 
7. Hwyluso dysgu wedi’i bersonoli sy’n canolbwyntio ar berfformiad

Yn arwain at Aelodaeth Gyswllt y CIPD. 42 Credyd. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE