Dyfarniad Lefel 3 mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol Perthnasol (RQF)

L3 Lefel 3
12 Mawrth 2026 — 10 Mehefin 2026
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Yn barod i ddod yn aseswr dibynadwy?

Mae’r dyfarniad hwn wedi ei ddylunio i weithwyr proffesiynol sy’n dymuno ennill sgiliau cydnabyddedig mewn asesu galwedigaethol. Yn cynnwys yr egwyddorion hanfodol a’r technegau ymarferol, mae’r cwrs hwn yn rhoi’r hyder ichi asesu dysgwyr yn deg ac yn gyson. Gyda chynnwys rhyngweithiol, arweiniad arbenigol, a sefyllfaoedd y byd go iawn, byddwch yn dysgu sut i wneud penderfyniadau deallus sy’n cyflawni safonau’r diwydiant. P’un a ydych yn dechrau eich taith neu’n ychwanegu at eich swydd bresennol, bydd y cwrs hwn yn hybu eich hygrededd ac yn agor drysau i gyfleoedd cyffrous mewn addysg a hyfforddiant.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unigolion sy’n cyflwyno rhaglenni galwedigaethol neu i unigolion sy’n dymuno dod yn aseswyr cymwys.

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno a’i asesu drwy gyfuniad o ddysgu mewn dosbarth, ar-lein ac o bell.

Dyddiadau'r Cwrs:

  • Diwrnod 1: Dydd Iau 12 Mawrth 2026
  • Diwrnod 2: Dydd Iau 16 Ebrill 2026
  • Diwrnod 3: Dydd Iau 14 Mai 2026
  • Diwrnod 4: Dydd Mercher 10 Mehefin 2026

Pam Dewis y Cwrs Hwn?

  • Cymhwyster a gydnabyddir gan y Diwydiant: Mae’r cymhwyster hwn yn cael ei dderbyn gan ystod o gyflogwyr a darparwyr hyfforddiant. Mae hynny’n ei wneud yn gymhwyster hanfodol i unrhyw un sydd awydd dod yn aseswr cymwys mewn sefyllfaoedd galwedigaethol.
  • Datblygu Gyrfa: Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer swyddi fel Aseswr NVQ, swyddog sicrhau ansawdd mewnol neu Brentisiaethau ar draws llawer o sectorau galwedigaethol.

Modiwlau

  • Uned 301: Deall Egwyddorion ac Arferion Asesu - Ystyried cydymffurfiaeth, tegwch, a dulliau sy’n canolbwyntio ar ddysgwyr.
  • Uned 303: Asesu Sgiliau Galwedigaethol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth - Ennill profiad ymarferol o asesu sgiliau ymarferol mewn amgylcheddau asesu sefyllfaoedd.

Asesu

I ennill y cymhwyster hwn, bydd angen ichi fod yn bresennol ym mhob sesiwn a fydd yn cynnwys dysgu mewn dosbarth ac ar-lein, cyflwyno portffolio o dystiolaeth y byddwch yn ei lunio a’i gyflwyno ar ddiwedd y cwrs, dangos gwybodaeth am asesu ac mae disgwyl ichi gynnal o leiaf pedwar asesiad gydag o leiaf dau ddysgwr wrth gael eich arsylwi mewn amser real.

Bydd yr asesiad yn ymgymryd â dull cyfannol a bydd yn cynnwys adnabod dysgu blaenorol, tystiolaeth o’ch gwaith, tystiolaeth llygad-dystion, trafodaethau proffesiynol, astudiaethau achos, datganiadau dysgwyr/myfyriol ac arsylwadau o’ch ymarfer.

Ar ddiwedd y cwrs, byddwch yn cyflwyno tystiolaeth o gynllunio asesiadau, rhoi adborth, adolygu cyfranogiad mewn gweithgareddau datblygu parhaus a safonol.

Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, TEAMS a ffôn. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniad, portffolio o dystiolaeth a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny. Bydd disgwyl ichi ymrwymo i gyflawni’r cymhwyster dros gyfnod o 6-12 mis a bydd angen ichi gael mynediad at y rhyngrwyd ac at liniadur.

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £835.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:

  • yn 19 oed neu hŷn
  • ddim mewn addysg amser llawn
  • yn gallu mynychu’r gweithdai ar bob dyddiad
  • yn meddu ar A* - C mewn TGAU Saesneg neu gyfwerth neu uwch

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

12 Mawrth 2026

Dyddiad gorffen

10 Mehefin 2026

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSAAVRA3P01
L3

Cymhwyster

Level 3 Award in Assessing Vocationally Related Achievement

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Mynd ymlaen i’r Dystysgrif mewn Asesu Cyflawniad Galwedigaethol (CAVA) neu ystyried swyddi fel Swyddog Sicrhau Ansawdd Mewnol (IQA). Y dyfarniad hwn yw eich carreg gamu i yrfa foddhaol mewn addysg alwedigaethol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE