Mae Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl yn ffordd bwysig o gefnogi gweithwyr a chydweithwyr gyda’u llesiant meddyliol. Mae’r hyfforddiant hwn yn datblygu’r sgiliau i ganfod pryd mae pobl eraill yn profi iechyd meddwl gwael a gwybodaeth am sut i fynd ati i ddechrau sgwrs i roi cefnogaeth briodol.
Byddwch yn dysgu fframwaith y cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, a fydd yn rhoi’r hyder ichi gefnogi eraill ac a fydd yn meithrin eich ymwybyddiaeth o’r heriau iechyd meddwl amrywiol y gall pobl eu profi.
Mae’r cwrs hwn yn addas i unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu gwybodaeth am iechyd meddwl ac ennill yr adnoddau i ddarparu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i eraill, boed yn y gweithle neu yn y gymuned gyda ffrindiau a theulu.
Disgrifiwch y pynciau a'r meysydd astudio. Gall hyn gynnwys modiwlau neu wybodaeth fanylach am ba elfennau a astudir.
Gallwch hefyd gynnwys dulliau addysgu ac asesu, os dymunwch. Cyflwynir y cwrs drwy 2 sesiwn Weminar 3 awr dros Microsoft Teams.
Gweminar 1: Dydd Gwener 24ain Hydref 9.30am - 12:30pm
Gweminar 2: Dydd Gwener 14eg Tachwedd 9.30am - 12:30pm
Modiwlau’r cwrs:
Amserlen y cwrs:
Rhag-ddysgu ar gyfer Gweminar 1:
Gweminar 1:
Rhag-ddysgu ar gyfer Gweminar 2:
Gweminar 2:
*Noder, oherwydd y pynciau sensitif a drafodir yn yr hyfforddiant, argymhellir bod gan gyfranogwyr lefel briodol o lesiant cyn mynychu.
Mae Hyfforddiant MHFA Wales wedi ei drwyddedu i gyfranogwyr sy’n byw ac yn/neu’n gweithio yng Nghymru yn unig.
Bydd cyfranogwyr angen mynediad at Microsoft Teams ar liniadur / cyfrifiadur a man tawel. Mae'r cwrs yn rhyngweithiol ac angen i ddysgwyr ddefnyddio eu gwe-gamerâu drwy gydol y sesiynau a chyfrannu at ystafelloedd trafod.
Ffi Cwrs: £165.00
Rydych chi'n gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych chi: - Yn 19 oed neu'n hŷn - Yn byw a/neu'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd - Yn gallu mynychu'r ddau Weminar ac yn barod i gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau trafodaethau grŵp - Yn barod i gwblhau gwaith cyn pob Gweminar - Yn teimlo'n gyfforddus yn trafod Iechyd Meddwl gydag eraill.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.