Ewch â’ch sgiliau Microsoft Excel i’r lefel nesaf!
Mae’r Hyfforddiant Excel Uwch hwn wedi ei ddylunio i ychwanegu at sylfaen ganolradd gadarn, er mwyn mynd â’ch gwybodaeth i’r lefel nesaf a datgloi’r adnoddau i fynd i’r afael â heriau cymhleth y byd go iawn gyda hyder a chreadigrwydd.
Ystyriwch nodweddion fel uwch drefnu a rheoli data, gwarchod celloedd a siartiau llinell patrwm (sparklines), yn ogystal â ffwythiannau a fformiwlâu soffistigedig fel RANK. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych yr hyder i arbrofi ac archwilio adnoddau gweledol fel siartiau, tablau colynnu a siartiau colynnu.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Caiff y cwrs hwn ei gyflwyno yn ein Campws Canol y Ddinas o 9.30am - 4pm.
Cliciwch ar y cyd â’n Tiwtor Cwrs, cwblhewch weithgareddau ymarferol ac ar sail senario, a chymerwch olwg fanylach ar adnoddau a nodweddion Microsoft Excel a amlinellir isod:
Mewnbynnu a Threfnu Data
Mewnbynnu, copïo, dileu a chuddio tabiau
Newid lliw tab
Arddulliau celloedd
Cysylltu taflenni gwaith a llyfrau gwaith
Gwarchod celloedd a chyfyngu ar fewnbynnu data
Diogelu taflenni gwaith
Diogelu llyfrau gwaith
Ystodau a enwir
Enwi Tablau
Gosod Tudalen ac Ailadrodd rhesi a cholofnau
Rheoli Data
Dilysu Data
Is-gyfanswm
Beth os - Chwilio am amcanion
Hidlyddion a Holltwyr
Siartiau Llinell Patrwm
Ffwythiannau a Fformiwlâu
Datganiadau IF - uwch
SumIfs
CountIfs
CountA a CountBlank
RoundUp a RoundDown
Rank
Siartiau, Tablau Colynnu a Siartiau Colynnu
Rheoli Siartiau
Creu Tablau Colynnu a Siartiau Colynnu
Rheoli Meysydd
Hidlo a threfnu
Craffu
Dewch â gliniadur eich hun neu defnyddiwch un o’n rhai ni ar y diwrnod!
Ffi Cofrestru: £10.00
Ffi Cwrs: £40.00
Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych:
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Beth ar ôl Excel Uwch?
Power BI
Ardystiad Arbenigwr Microsoft Office (MOS)