Mae Dyfarniad ILM Lefel 3 yn gymhwyster sy'n cael ei gydnabod yn genedlaethol ac wedi'i ddylunio ar gyfer arweinwyr tîm a rheolwyr rheng flaen, neu’r rheiny sy’n dymuno cael rôl hyfforddi yn eu sefydliad. Mae dysgwyr yn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o hyfforddi er mwyn gwella eu sgiliau a’u hyder wrth hyfforddi.
Bydd y cwrs yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o sut i adnabod sut mae hyfforddi’n gweithio a datblygu gwybodaeth am greu diwylliant hyfforddiant o fewn sefydliad i wella perfformiad sefydliadol. Bydd dysgwyr yn cael y cyfle i ymarfer eu sgiliau hyfforddi, gan ddefnyddio technegau a modelau hyfforddi cydnabyddedig i wella a datblygu eu harferion hyfforddi.
Diddordeb? Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
Ar-lein: CSLM3ECMO 2024/25NOV
Diwrnod 1: 27 Tachwedd 2024
Diwrnod 2: 4 Rhagfyr 2024
Diwrnod 3: 11 Rhagfyr 2025
Diwrnod 4: 18 Rhagfyr 2025
Diwrnod 5: 8 Ionawr 2025
Diwrnod 6: 5 Chwefror 2025
Wyneb yn wyneb: CSILM3ECM 2024/25
Diwrnod 1: 20 Chwefror 2025
Diwrnod 2: 20 Mawrth 2025
Diwrnod 3: 17 Ebrill 2025
Diwrnod 4: 22 Mai 2025
Diwrnod 5: 19 Mehefin 2025
Diwrnod 6: 17 Gorffennaf 2025
I ennill eich Dyfarniad Lefel 3 ILM, bydd gofyn i chi fynychu 3x dosbarth wyneb yn wyneb gorfodol. I ennill y cymhwyster, bydd angen ichi gyflwyno 3x Aseiniad Uned; aseiniad damcaniaethol (oddeutu 3500 o eiriau), dyddiadur hyfforddi (tystiolaeth o werth 6 awr o hyfforddi o fewn sefydliad) ac aseiniad myfyriol (oddeutu 1500 o eiriau).
Unedau yr ymdrinnir â nhw ar y cwrs hwn:
Unwaith rydych wedi llwyddo, byddwch yn derbyn tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol a bathodyn achrediad digidol.
Ffi Cofrestru rhan amser: £40.00
Ffi Cwrs: £935.00
Ffi Arholiad : £120.00
Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:
Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.
Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.