Arwain a Rheoli - Camu ymlaen yn Hyderus
Dyluniwyd y Dyfarniad Lefel 3 ILM hwn mewn Arwain a Rheoli i fagu eich hyder, rhoi sglein ar eich steil arwain, a’ch darparu gyda’r adnoddau ymarferol i arwain yn effeithiol yng ngweithleoedd prysur yr oes hon.
P’un a ydych yn arweinydd tîm uchelgeisiol neu eisoes mewn swydd oruchwylio, mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn berffaith i’r rhai sydd awydd datblygu gwell dealltwriaeth o arwain a rheoli - gan bontio’r blwch rhwng cyfrifoldebau gweithredol a meddwl yn strategol.
Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!
I ennill eich Dyfarniad Lefel 3 ILM, bydd angen i chi fynd i 2 sesiwn orfodol wyneb yn wyneb yn y dosbarth a 2 diwtorial gyda’ch tiwtor.
Carfan nesaf
Cynhelir ein carfan nesaf ar safle ein Campws Canol Dinas Caerdydd o 9.30am – 4pm ar bob dyddiad.
Gweithdy 1: Dydd Mercher 6ed Mai 2026
Gweithdy 2: Dydd Mawrth 9fed Mehefin 2026
Gweithdy 3: Dydd Llun 6ed Gorffennaf 2026
Modiwlau
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dau fodiwl arwain craidd, y ddau wedi’u cefnogi gan ddull asesu hyblyg i gyd-fynd â’ch steiliau dysgu.
Uned 308: Deall Arweinyddiaeth
Uned 334: Deall a datblygu cysylltiadau yn y gweithle
Asesiad
Ar gyfer pob modiwl, byddwch naill ai’n cwblhau asesiad ysgrifenedig, cyflwyniad llafar neu ddigidol, neu asesiad holi ac ateb ar lafar.
Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor ILM drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, TEAMS a ffôn. Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.
Ar ôl i chi basio’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, cewch eich Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli, yn ogystal â bathodyn digidol i rannu a dathlu eich cyflawniad.
Ffi Arholiad : £105.00
Ffi Cofrestru: £45.00
Ffi Cwrs: £695.00
Rhaid talu Ffi y Cwrs a Chofrestru wrth gofrestru.
I fod yn gymwys ar gyfer y cymhwyster hwn, rhaid i chi:
Bydd pob cais, datganiad personol a thystiolaeth cymwysterau yn cael eu hasesu gan ein Tiwtoriaid Cwrs. Bydd y tîm wedyn yn cysylltu â chi i gadarnhau eich addasrwydd cyffredinol ar gyfer y lefel hon o gymhwyster ILM.
Sylwch na allwn brosesu ceisiadau heb Ddatganiad Personol.
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.