Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Arweinyddiaeth a Sgiliau Tîm

L2 Lefel 2
22 Hydref 2025 — 3 Rhagfyr 2025
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Ynghylch y cwrs hwn

Y Dyfarniad Lefel 2 ILM yw’r cymhwyster lefel mynediad perffaith i arweinwyr tîm, goruchwylwyr, a rheolwyr iau sydd newydd eu penodi ac sy’n chwilio i ddatblygu sylfaen gadarn mewn arwain a rheoli. 

Wedi ei drefnu i weithio o amgylch ymrwymiadau gwaith, mae’r cwrs ymarferol hwn yn canolbwyntio ar sgiliau arwain y byd go iawn a allwch eu cymhwyso o’r diwrnod cyntaf - gan roi hwb i’ch hyder a’ch gallu wrth arwain eraill.

Byddwch yn datblygu eich sgiliau cyfathrebu i gydweithio’n hyderus, mynd i’r afael â heriau’r gweithle ac ysgogi eraill tuag at nodau cyffredin. 

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!

Diwrnod 1: Dydd Mercher 22 Hydref 2025

Diwrnod 2: Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025

Beth fyddwch chi’n ei astudio

I ennill eich Dyfarniad Lefel 2 ILM, bydd angen ichi fynychu 2 weithdy gorfodol ac 1 tiwtorial ar-lein gyda’ch tiwtor.

Modiwlau

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dau fodiwl arwain craidd, y ddau wedi’u cefnogi gan ddull asesu hyblyg i gyd-fynd â’ch steiliau dysgu.

Uned 250: Datblygu Eich Hun fel Arweinydd Tîm
Uned 252: Cynllunio a Monitro Gwaith

Asesu

Ar gyfer pob modiwl, byddwch naill ai’n cwblhau asesiad ysgrifenedig, cyflwyniad llafar neu ddigidol, neu asesiad cwestiwn ac ateb llafar. 

Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor ILM drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, TEAMS a ffôn.  Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny.

Ar ôl ichi basio’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn eich Tystysgrif Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Tîm ac Arwain, ynghyd â bathodyn digidol i rannu a dathlu eich cyflawniad.

Ffïoedd cwrs

Ffi Arholiad : £103.00

Ffi Cofrestru: £45.00

Ffi Cwrs: £572.00

Gofynion mynediad

Rydych yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych: 

  • yn 19 oed neu hŷn
  • ddim mewn addysg amser llawn 
  • yn gallu mynychu pob dyddiad y cwrs
  • yn ddelfrydol yn meddu ar A* - C mewn Saesneg TGAU neu gyfwerth neu gymhwyster uwch (oherwydd natur academaidd yr asesiad), er nad yw hyn yn angenrheidiol

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

22 Hydref 2025

Dyddiad gorffen

3 Rhagfyr 2025

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau
£: Mae'r cwrs hwn yn rhad ac am ddim i oedolion neu oedolion sydd yn cael budd-daliadau penodol. Os ydych chi'n gymwys, nid ydych yn talu'r 'Ffi cwrs' a restrir o dan 'Ffi cwrs flynyddol'. Gellir codi ffi gofrestru o £10-40. Bydd angen talu unrhyw ffi gofrestru broffesiynol / ffi arholiad / ffi arall a restrir. Gall cefnogaeth ariannol fod ar gael ar gyfer y costau hyn. I ddysgu mwy ewch i www.cavc.ac.uk/PartTimeFunding

Cod y cwrs

CSILM2TS
L2

Cymhwyster

City & Guilds Dyfarniad Lefel 2 mewn Sgiliau Arwain a Thîm

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Dyfarniad Lefel 3 ILM yr Arweinydd Uchelgeisiol o Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol.

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE