Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli

L3 Lefel 3
30 Medi 2026 — 31 Mawrth 2028
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Ynghylch y cwrs hwn

Arwain a Rheoli - Camu ymlaen yn Hyderus 

Dyluniwyd y Dyfarniad Lefel 3 ILM hwn mewn Arwain a Rheoli i fagu eich hyder, rhoi sglein ar eich steil arwain, a’ch darparu gyda’r adnoddau ymarferol i arwain yn effeithiol yng ngweithleoedd prysur yr oes hon. 

P’un a ydych yn arweinydd tîm uchelgeisiol neu eisoes mewn swydd oruchwylio, mae’r cymhwyster hwn a gydnabyddir yn genedlaethol yn berffaith i’r rhai sydd awydd datblygu gwell dealltwriaeth o arwain a rheoli - gan bontio’r blwch rhwng cyfrifoldebau gweithredol a meddwl yn strategol.  

Cliciwch ar yr isdeitlau isod am ragor o wybodaeth!  

Beth fyddwch chi’n ei astudio

Er mwyn ennill eich Dyfarniad Lefel 3 ILM, bydd angen i chi fynd i 2 sesiwn wyneb yn wyneb orfodol ar y safle ar Gampws Canol y Ddinas a 2 diwtorial gyda’ch tiwtor.  
Gweithdy 1: Dydd Mercher 30 Medi 2026, 9.30-4pm 
Gweithdy 2: Dydd Mercher 4 Tachwedd 2026, 9.30-4pm 
Gweithdy 3: Dydd Iau 3 Rhagfyr 2026, 9.30-4pm 

Modiwlau 
Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys dau fodiwl arwain craidd, y ddau wedi’u cefnogi gan ddull asesu hyblyg i gyd-fynd â’ch steiliau dysgu. 

Uned 308: Deall Arweinyddiaeth 
Uned 334: Deall a datblygu cysylltiadau yn y gweithle 

Asesiad 
Ar gyfer pob modiwl, byddwch naill ai’n cwblhau asesiad ysgrifenedig, cyflwyniad llafar neu ddigidol, neu asesiad holi ac ateb ar lafar.  

Byddwch yn derbyn arweiniad a chymorth parhaus gan eich tiwtor ILM drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys yn ystod eich sesiwn diwtorial a hefyd dros e-bost, TEAMS a ffôn.  Mae amser i hunan-astudio yn allweddol i’ch helpu i gwblhau eich aseiniadau a pharatoi at eich asesiad - felly sicrhewch eich bod yn trefnu eich amserlen yn unol â hynny. 

Ar ôl i chi basio’r ddau fodiwl yn llwyddiannus, cewch eich Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli, yn ogystal â bathodyn digidol i rannu a dathlu eich cyflawniad. 

Y broses ymgeisio 
Ar ôl i chi ddefnyddio’r botwm ‘Ymgeisio Nawr’ ar frig y dudalen i gyflwyno eich cais, bydd aelod o’n tîm yn anfon ein holiadur cymhwysedd i gadarnhau mai dyma’r cymhwyster cywir ar gyfer eich swydd bresennol a’ch nodau gyrfa drwy edrych ar ofynion ILM. 

Ffïoedd cwrs

Ffi Cwrs: £985.00

Gofynion mynediad

Rydych chi'n gymwys ar gyfer y cwrs hwn os ydych chi: • yn 19 oed neu'n hŷn • ddim mewn addysg amser llawn • mewn rôl arweinyddiaeth ar hyn o bryd neu os oes gennych chi brofiad o fod mewn un • yn ddelfrydol yn meddu ar radd A*-C mewn Saesneg TGAU neu gymhwyster cyfatebol neu gymhwyster uwch (oherwydd natur yr asesiad)

Pwyntiau pwysig

  • Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.

  • Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.

  • Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.

  • Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.

  • Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.

  • Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.

  • Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.

Gwybodaeth allweddol

Dyddiad dechrau

30 Medi 2026

Dyddiad gorffen

31 Mawrth 2028

Amser o'r dydd

Yn ystod y dydd

Lleoliad

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Mapiau a Chyfarwyddiadau

Cod y cwrs

CSILM3ASL
L3

Cymhwyster

ILM Level 3 Award The Aspiring Leader

Rhagolygon gyrfa ac astudio pellach

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn gallwch barhau â'ch datblygiad Dyfarniad Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol o  Dyfarniad Lefel 5 IML yr Arweinydd Effeithiol. 

Lleoliadau

Campws Canol y Ddinas, Caerdydd
Campws Canol y Ddinas, Caerdydd

Campws Canol y Ddinas,

Heol Dumballs,

Caerdydd,

CF10 5FE