Wedi'i gynllunio ar y cyd gyda CCAF, mae Grŵp Sgiliau inTech Wales a phrif sefydliadau Technoleg yn bwriadu mynd i'r afael â phrinder yn y diwydiant.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflawn ac ennill cymwysterau gwerthfawr sy'n rhoi hwb i'ch cyfleoedd gyrfa yn y sector Technegol. Byddwch yn ennill gwybodaeth sylfaenol mewn:
Tystysgrif Agored Cymru Lefel 3 mewn Datblygu Meddalwedd
Mae hyn yn gyfle gwych i ddechrau eich gyrfa, rhoi hwb iddo neu ei newid.
Mae'n bosib eich bod wedi gadael yr ysgol sawl blwyddyn yn ôl ac wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ers hynny
Beth bynnag yw'ch cefndir, nod y rhaglen hon yw ceisio rhoi hwb i'ch hyder a'ch darparu gyda sgiliau sy'n cael eu gwerthfawrogi gan sefydliadau Technegol.
Bydd pob cyfranogwr yn derbyn lwfans hyfforddiant wythnosol o £150. Os oes gennych chi unrhyw gyfyngiadau ariannol neu rwystrau rhag mynychu'r academi, mae cymorth ariannol hefyd ar gael (e.e., tuag at gofal plant, costau teithio) *
Mae sefydliadau partner Technegol yn ymrwymo i gyfweld pob un sy'n cwblhau'r modiwlau angenrheidiol.
*Mae'n bosib y bydd y lwfans hyfforddiant yma yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau eraill rydych chi'n eu derbyn.
Unedau seiliedig ar dystiolaeth: Ymarfer Proffesiynol mewn cyd destun TG, Codio, Cymwysiadau Cronfa Ddata
Gofynion hanfodol:
• Bod yn 19+ oed
• Bod yn byw yng Nghymru
• Ddim mewn addysg llawn amser
• Bod ag A*- C mewn TGAU Saesneg, neu ILETS lefel 5+, neu Ascentis ESOL L2 neu uwch
• Bod â dawn a brwdfrydedd dros godio (neu gymhwyster mewn maes pwnc yn y sector perthnasol). Ar ôl cofrestru eich diddordeb, cewch eich gwahodd i gyfweliad
Os byddwch yn llwyddiannus, byddwch wedyn yn cael eich gwahodd i lenwi ffurflen gais ar-lein.
Mae'r academi hon yn cael ei darparu wyneb yn wyneb.
Byddwch angen mynediad at gyfrifiadur/gliniadur gyda'r manylebau isaf. Gwiriwch eich gliniadur os gwelwch yn dda er mwyn sicrhau bod ganddo'r gofynion isaf sydd eu hangen ar gyfer rhedeg y meddalwedd [Intel i3 - 3.40Ghz neu well ac o leiaf 8GB o ram neu AMD Ryzen 5 - 3.2Ghz neu well ac o leiaf 8GB o ram].
Meddalwedd:
Mynediad llawn i'r meddalwedd/gwefannau safonol canlynol:
Mynediad llawn i'r meddalwedd canlynol sydd wedi'i deilwra'n arbennig ac i'r cyfan o'r llyfrgelloedd:
Dolenni:
https://www.anaconda.com/products/distribution
https://docs.microsoft.com/en-us/sql/ssms/download-sql-server-management-studio-ssms?view=sql-server-ver16
https://www.microsoft.com/en-gb/sql-server/sql-server-downloads
https://www.sublimetext.com/
https://anvil.works/
Os oes gennych unrhyw bryderon ynghylch cael mynediad at y meddalwedd uchod, siaradwch gyda'ch tiwtor a/neu gyswllt CCAF fydd yn gallu eich cefnogi chi gyda datrysiad amgen.
"Mae'r cwrs wedi fy rhoi sgiliau gwerthfawr i mi sydd wir yn chwenychedig o fewn y diwydiant FinTech. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ymgeisio am amrywiaeth o swyddi ac rydw i'n gyffrous wrth feddwl am yr holl gyfleoedd y bydd yn ei ddod." A. Peart, Academi Codio 2022
"Rwy'n hynod o ddiolchgar i CCAF am ddarparu'r cwrs wnes i ei fwynhau'n fawr. Rwyf wir yn gwerthfawrogi'r cyfle ac fe wnaeth y cwrs gyflawni ei fwriad drwy alluogi i mi ddechrau cyflogaeth mewn Fintech yn ne Cymru." L. Crews, Academi Codio 2022
Cymysgedd o arholiad(au) ac asesiad
Mae'r Coleg yn croesawu cyswllt â rhieni / gwarcheidwaid myfyrwyr sy'n iau na 18 oed.
Mae cefnogaeth ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sydd ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro wedi ymrwymo i gynhwysiant ac mae'n gwerthfawrogi amrywiaeth. Rydym yn benderfynol o hybu cyfleoedd cyfartal a thrin pawb yn deg a gyda pharch.
Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn cadw'r hawl i wneud newidiadau i'r cwrs hwn heb rybudd ymlaen llaw.
Gall ffioedd cyrsiau newid. Cadarnheir eich ffi cyn ymrestru.
Mae pob cwrs yn fanwl gywir adeg uwchlwytho neu argraffu'r deunydd hwn.
Dim ond os oes niferoedd digonol y cynhelir y cyrsiau.
Sylwer, os byddwch yn dewis tri chwrs neu fwy, efallai y cewch eich cyfeirio i gael apwyntiad gyrfaoedd i ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i ddewisiadau Safon Uwch na TGAU.
Mae sefyliadau partner Technoleg lleol yn ymrymo i gyfweld pawb sy’n cwblhau’r modiwlau gofynnol.